Ymgynghoriad Cyhoeddus Ystyrlon: 7 cynhwysyn hanfodol
Os ydych chi'n darllen hwn, mwy na thebyg bod gennych chi ryw fath o gynllun ar gyfer eich ymgynghoriad cyhoeddus neu eich bod ar fin dechrau ar un. Efallai ei fod yn ymgynghoriad ar raddfa fawr ar bolisi mawr, neu'n ddigwyddiad cymunedol sydd ddim ond yn digwydd unwaith ac am byth.
Wrth i gyfnod ymgynghori Cynllun Eryri ddod i ben dyma adlewyrchu ar y gwersi rydym wedi dysgu dros y blynyddoedd wrth ymgynghori yn gyhoeddus
Efallai eich bod chi'n ymchwilio i weld a ydi'r hyn rydych chi wedi'i gynllunio yn mynd i weithio. Efallai eich bod yn chwilio am rai awgrymiadau ar sut i wneud eich ymgynghoriad yn fwy diddorol, neu'n fwy apelgar i'ch rhanddeiliaid. Neu hyd yn oed sut i annog pobl i fynychu.
Bydd y canllaw hwn, dwi'n gobeithio, yn cynnwys yr atebion rydych chi'n chwilio amdanyn nhw, ond yn gyntaf mae yna rai elfennau sylfaenol sy'n werth eu hystyried.
Pan fyddwch chi'n mynd ati i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus mae gennych gyfle i newid bywydau pobl er gwell. Eich bwriad ydi clywed beth yw eu pryderon a'u syniadau, sut maen nhw'n teimlo am yr hyn rydych chi'n ei gynnig, ac addasu'ch cynllun neu'ch strategaeth i fynd i'r afael a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu.
Pan gynhelir ymgynghoriadau mewn ffordd wael maent yn gwneud mwy o ddrwg nag o les. Mewn byd lle mae gan bobl ganfyddiad cryf nad oes neb yn gwrando arnyn nhw a bod eu barn yn cael ei hanwybyddu, mae risg wirioneddol o waethygu'r safbwynt hwn. Ar yr ochr arall i'r geiniog, yr hyn sydd wirioneddol yn grymuso pobl ydi'r teimlad o allu dylanwadu a newid cyfeiriad digwyddiadau er gwell.
Mae ymgynghori a phobl hefyd yn offeryn pwerus iawn i gael pobl i ddweud wrthych am y materion maen nhw eisiau eu trafod cyn i chi ddarparu datrysiadau ac atebion iddynt.
Ers nifer o flynyddoedd bellach yma yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri rydym wedi bod yn mireinio'r ffordd rydyn ni'n cysylltu ac yn mynd ati i ymgynghori.
Rydym wedi chwarae rhan flaenllaw mewn dull gweithredu sy'n fwy cyd-gysylltiedig o reoli'r ardal trwy ddatblygu cynlluniau partneriaeth sy'n nodi'r cyfleoedd a'r bygythiadau yr ydym i gyd am fynd i'r afael a hwy dros y blynyddoedd sydd i ddod. Yn gyntaf ar gyfer Yr Wyddfa ac yna ar gyfer y Parc Cenedlaethol cyfan ac mae ymgynghoriad yn digwydd ar hynny ar hyn o bryd, o dan arweiniad ein Rheolwr Partneriaethau gwych Angela Jones.
Ar hyd y ffordd rydym wedi mireinio'r cynhwysion sylfaenol sy'n creu proses ymgynghori lwyddiannus.
Yr hyn sydd i ddilyn yw'r darnau gorau o'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu, ac yn ddiweddarach yn yr erthygl byddwn yn edrych mewn dyfnder ar bob cam o'r broses ymgynghori. Gobeithio y byddwch chi’n dod o hyd i rywbeth defnyddiol ymysg y pwyntiau isod, yn ennill rhywbeth o'r gwersi rydyn ni wedi'u dysgu ar y ffordd, ac yn defnyddio'r awgrymiadau hyn i gynnal ymgynghoriadau gwych.
Y ddau gwestiwn pwysig iawn cyntaf y dylech chi ofyn i chi eich hun cyn i chi ddechrau ...
Cwestiwn # 1: Beth ydych chi'n fwriadu ei gael allan o'r ymgynghoriad?
Mae'n bwysig iawn dechrau gan gadw'r diwedd mewn golwg. Beth yw'r canlyniadau rydych chi eu heisiau? Efallai bod eich ymgynghoriad yn un statudol - fel ein un ni ar gyfer Cynllun Eryri - neu efallai eich bod yn anelu at ymgysylltu a chymuned neu gr?p diddordeb.
Beth bynnag fo'r amgylchiadau, mae'n holl bwysig cael syniad clir o'r canlyniad terfynol rydych chi'n chwilio amdano. Mae'n hawdd iawn ‘ymgynghori dim ond er mwyn ymgynghori,’ ond heb bwrpas clir gall wneud mwy o ddrwg nag o les.
Gallai rhai o'r canlyniadau y gallech fod yn edrych amdanynt gynnwys:
- Darganfod beth ydi barn eich rhanddeiliaid ac addasu eich cynlluniau o ganlyniad i hynny.
- Hysbysu ac addysgu pobl am eich cynlluniau.
- Sicrhau bod gennych ystod eang o safbwyntiau / farn ar eich cynlluniau.
- Cynnwys pobl yn yr hyn rydych chi'n ei wneud neu'n bwriadu ei wneud
Yr edefyn cyson yn hyn o beth ydi, sut bynnag, a phwy bynnag yr ydych yn ymgynghori a hwy, bydd eu mewnbwn yn y pen draw yn dylanwadu ar eich cwrs gweithredu, eich cynllun neu’ch strategaeth. Os nad fydd hyn yn rhan o'ch deilliant / ganlyniad, byddwch yn colli llawer o ffydd ac yn methu ag ymgysylltu.
Mae rhoi’r p?er i bobl ddylanwadu ar benderfyniadau yn beth anhygoel o rymusol.
Cwestiwn # 2: Faint o amser ac adnodd sydd gennych chi?
Dechreuwch yn fan hyn. Gweithiwch yn ?l.
Bydd yr ymgynghoriad perffaith yn un sydd wedi'i deilwra yn unol a‘r adnoddau a'r amser sydd gennych chi.
Gellir cynyddu maint neu leihau pob un o'r saith cynhwysyn hanfodol isod yn dibynnu ar hyn. Byddwch yn realistig, ac addaswch eich cynlluniau yn unol a hynny. Mae'n well gor-gyflawni'r hyn rydych chi wedi'i addo na thangyflawni.
Y 7 cynhwysyn hanfodol sy’n rhan o’r ymgynghoriadau gorau
1. Ennill dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i bobl yn gynnar.
Bydd gwybod beth yw heriau, pryderon ac anghenion pobl yn gynnar yn fuddiol iawn. Dylai eich nod gynnwys yr amcan i geisio deall anghenion eich rhanddeiliaid allweddol a mynd i'r afael a'r rhain fel rhan o'ch strategaeth neu’ch cynllun.
Dewch o hyd i gyfleoedd i ryngweithio'n anffurfiol a'ch rhanddeiliaid mwyaf dylanwadol cyn i chi ddechrau'r broses.
Gofynnwch pam.
Fel rheol, gallwch dwrio i lawr at graidd pryderon a chymhellion pobl trwy ofyn pam. Mae osgoi dod i unrhyw gasgliad a pheidio a llunio barn yn hanfodol i'r broses hon o geisio ennill dealltwriaeth ddyfnach. Gofynnwch, gwrandewch a chrynhowch yn achlysurol yr hyn rydych chi'n meddwl rydych chi wedi'i glywed er mwyn rhoi eglurder i’ch dealltwriaeth.
Cloddiwch yn ddwfn. Byddwch yn gallu fframio unrhyw drafodaeth ddiweddarach gyda'r hyn rydych chi'n ei ddarganfod mewn golwg.
Mae rhagor o fanylion o dan ‘Ymgynghori anffurfiol cynnar’ isod.
2. Nodwch y chwaraewyr allweddol. Pwy yw'r dylanwadwyr allweddol yn yr ardal ddaearyddol neu yn y maes / pwnc?
Mae'n bwysig iawn i ni ein bod yn dylunio cynlluniau y mae ein holl randdeiliaid yn eu cefnogi ac yn cytuno arnynt. Dros y blynyddoedd, roedd gwahanol fathau o grwpiau yn yr ardal wedi ffurfio barn / safbwyntiau tra gwahanol. Er mwyn dylanwadu a chael pobl o'n plaid yn llwyddiannus, roedd yn bwysig nodi'r chwaraewyr a'r dylanwadwyr allweddol yn yr ardal a dechrau sefydlu dulliau o gyfathrebu a nhw.
Pan oeddem yn datblygu Cynllun Partneriaeth Yr Wyddfa, yn ogystal a gr?p craidd o randdeiliaid (gweler pwynt 4 isod) fe wnaethom hefyd nodi'r rhanddeiliaid ehangach yn yr ardal - hynny yw unrhyw un a oedd a rhywfaint o ran, r?l neu ddiddordeb yn y ffordd yr ydym ni fel partneriaid yn gofalu am y mynydd.
Yna o'r gr?p hwn fe wnaethom nodi'r dylanwadwyr allweddol a chreu cynllun cyfathrebu clir i weithio hefo nhw. Ceir rhagor o wybodaeth fanwl am hyn yn y ‘Dadansoddiad a Matrics Rhanddeiliaid’ isod.
3. Cyfathrebu, cyfathrebu, cyfathrebu
Cyfathrebu da yw'r offeryn mwyaf pwerus ar gyfer sicrhau canlyniad cadarnhaol.
Bydd cyfathrebu a'r rhanddeiliaid a nodwyd uchod o'r pwys mwyaf i sicrhau llwyddiant eich ymgynghoriad. Y nod yw atal teimladau drwg a materion cyn iddynt godi. Cr?wch gynllun cyfathrebu - mor fyr ag un dudalen ar gyfer digwyddiad bach i ddogfen fwy, sy'n mynd i fwy o fanylder.
Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar gyfathrebu uchafswm o dair neges allweddol am yr hyn rydych chi'n ei wneud. Bydd hefyd yn caniatáu ichi baratoi ymatebion ymlaen llaw i'r pryderon rydych chi wedi'u darganfod yn eich ymdrechion cynnar i ddeall anghenion eich rhanddeiliaid h.y. cwestiynau cyffredin. Ceir rhagor o fanylion yn ‘Adeiladu Cynllun Cyfathrebu’ isod.
4. Cr?wch bartneriaeth graidd gref fel seinfwrdd
Mae sefydlu gr?p craidd o'ch rhanddeiliaid pwysicaf yn un ffordd i gael mewnolwg dyfnach a chyflawni'n llwyddiannus mewn gwirionedd. Bydd angen iddynt gynrychioli'ch rhanddeiliaid pwysicaf yn eu cyfanrwydd. Dewiswch y rhai sydd a'r dylanwad mwyaf. Y rhai sydd fwyaf lleisiol. Y rhai sy'n hyrwyddo'ch achos chi, neu'r rhai sydd a'r potensial i wneud hynny.
Nhw fydd eich seinfwrdd. Nhw fydd y gr?p craidd y byddwch chi'n gweithio a nhw i ddatblygu a gweithredu newid yn dilyn yr ymgynghoriad. Gallwch gael y gr?p i fewnbynnu syniadau ac yna cydsynio a’ch cynllun cyfathrebu.
Dylech osgoi'r math o bobl sy'n draenio egni ac yn gas. Dyma'r math o bobl sy'n sugno egni, ac wrth eu bodd yn cael rhywbeth i gwyno amdano, sydd a'r p?er i sugno'r egni cadarnhaol o'r ystafell. Os byddwch chi'n datrys eu problemau, mae'n debyg na fyddan nhw'n rhy hapus hefo chi.
Mae'n ddigon posib y bydd dwyn ynghyd y gr?p craidd hwn yn dasg sylweddol o heriol os oes yna farn / safbwyntiau gwahanol. Yn y pen draw, byddwch chi eisiau annog ymdeimlad o fod yn agored, gonestrwydd, ymgysylltu a pherchnogaeth. Bydd angen i chi weithio'n rhagweithiol ar hyn a'r cam cyntaf fydd dod o hyd i ganlyniad cyffredin. Am ragor o gyngor sy'n fwy manwl gweler Cam 5: Sefydlu gr?p craidd.
5. Dewch o hyd i'r un canlyniad y mae pawb yn cytuno arno ac y mae ots gan bawb amdano:
Yn aml iawn gall ymgynghoriadau fod yn gyfle i bobl wyntyllu eu gwahaniaethau. Ond gall hefyd fod yn gyfle euraidd i chi adeiladu pontydd a dod o hyd i dir cyffredin.
Mae yna wastad ganlyniad neu ddeilliant sy'n gyffredin i bawb bron. Weithiau gall fod yn anodd adnabod be' ydi hyn pan fo teimladau pobl yn ddwys a pan maent yn teimlo'n gry' am bethau!
I ni pan oeddem yn datblygu Cynllun Partneriaeth Yr Wyddfa , yr hyn oedd yn gyffredin oedd bod pawb eisiau gofalu am y mynydd a gofalu amdano ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Ar ?l i ni nodi'r canlyniad cyffredin hwn, roedd yn llawer haws symud pethau ymlaen.
Mae mwy o wybodaeth fanwl am hyn ar gael yn ‘Gweithio gyda’n gilydd i osod amcanion’
6. Cytunwch ar, ac yna cyflawnwch broses ymgynghori dau gam sy'n wirioneddol agored a thryloyw
Mae hyn yn ymwneud a chyrraedd o ble rydych chi (heb gynllun) at y pwynt cyflawni (cynllun cytunedig yn ei le) yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon.
Mae'r ffordd y gwnaethom hyn gyda'n Cynllun newydd ar gyfer y Parc wedi'i nodi'n fanwl isod. Yn fwy na dim, yr hyn sy'n bwysig yw eich bod yn mynd ati gydag awydd gwirioneddol i glywed barn pobl a'u galluogi i ddylanwadu ar y canlyniad.
I wneud hyn fe wnaethom gynnal ein hymgynghoriad mewn dau gam. Cynhaliwyd ymgynghoriad cychwynnol er mwyn casglu a rhannu syniadau ac yna ein hymgynghoriad terfynol ar y cynllun drafft.
Byddwch hefyd angen casglu tystiolaeth a data er mwyn bwydo gwybodaeth ac addysgu. Byddwch angen cael y sgiliau cywir i ddadansoddi’r holl ganlyniadau a safbwyntiau.
Mae rhagor o fanylion yn yr ‘Ymgynghoriad Cychwynnol ’ a’r ‘Ymgynghoriad terfynol ar eich cynllun.’
7. Adeiladwch gyfrifoldebau a pherchnogaeth glir.
Efallai mai un o’r camau pwysicaf a gymerwyd gennym oedd gweithdy ‘aseinio cyfrifoldeb’ a gynhaliwyd ar ein cyfer gan gwmni ymgynghori gwych. Roedd hyn yn golygu bod cyfrifoldebau am weithredu o fewn y cynllun yn glir iawn. Roedd hyn yn rhan sylfaenol ar gyfer gallu cyflawni'r cynllun yn llwyddiannus. Mae mwy o wybodaeth fanwl am hyn yn ‘Cael pawb i ymrwymo.’
Plymio'n ddyfnach: cam wrth gam ar sut y gwnaethom gynhyrchu Cynllun Eryri
Cynllun Rheoli newydd ar gyfer y Parc Cenedlaethol
Hyd at ganol mis Mawrth 2020 byddwn yn ymgynghori ar y drafft terfynol o’r cynllun newydd ar gyfer Eryri - Cynllun Eryri: Cynllun Partneriaeth y Parc Cenedlaethol. Mae'r drafft ymgynghori a gynhyrchwyd yn feistrolgar gan Angela Jones, ein Rheolwr Partneriaethau yn edrych yn anhygoel, mae'n ddeniadol i'w ddarllen ac rydych yn gallu ymgolli ynddo wrth ei ddarllen ac mae'n darparu ysbrydoliaeth, syniadau - ac yn anad dim cyfeiriad ar gyfer y dyfodol.
Felly sut wnaethon ni gyrraedd i'r fan hon? Isod mae eglurhad cam wrth gam ynghylch sut y gwnaethom gynhyrchu'r Cynllun, a'r gwersi rydyn ni wedi'u dysgu ar hyd y ffordd.
Cam 1: Dadansoddiad rhanddeiliaid a matrics, 4 wythnos
Gyda phwy ydych chi'n ceisio ymgysylltu, sydd a dylanwad mawr yn llwyddiant eich prosiect? Pwy sydd a diddordeb mawr yn yr hyn rydych chi'n ei wneud? Bydd y rhain i gyd yn gwestiynau i'w gofyn i chi ddatblygu matrics rhanddeiliaid. Yr un sydd orau gen i yn bersonol ydi'r model matrics ‘P?er- Budd’.
Mae'r ymarfer hwn yn eich helpu chi i feddwl o ddifrif ynghylch ble’r ydych chi'n targedu'ch adnoddau a'ch egni, a sut y gallwch chi gynllunio'ch digwyddiadau i ymgysylltu a'r bobl hynny yn fwyaf effeithiol a'u hannog i droi fyny / gymryd rhan / mynychu. Mae hyn wedi gwneud i ni addasu'r dulliau a ddefnyddiwn ar gyfer ymgysylltu a'r cyhoedd yn eithaf sylweddol. - Er mwyn cyd-fynd yn well a'r rhanddeiliaid pwysicaf o ran blaenoriaeth. Mewn byd delfrydol gydag adnoddau diderfyn, byddech chi'n anelu at ennyn diddordeb pawb, ond nid felly mae hi fel rheol.
Fe wnaeth y broses hefyd ein helpu i sefydlu ein gr?p gwych o bartneriaid craidd - Fforwm Eryri.
Ar ?l i chi wneud drafft cyntaf o'ch matrics, yna fe fyddwch chi angen rhannu hwn a chael mewnbwn gan groestoriad ehangach i sicrhau nad ydych chi wedi gadael neb allan. Gair o rybudd: gwnewch yn si?r bod eich matrics yn cael ei drin mewn ffordd gyfrinachol. Ni fydd unrhyw un yn hapus i weld eu bod wedi’u dosbarthu fel ‘p?er isel a budd isel.’
Cam 2: Cydweithio i osod eich amcanion, 4 wythnos
P'un ai’r hyn sydd gennych yw t?m bach, sefydliad mawr neu gr?p o sefydliadau partner, bydd angen i chi wneud rhywfaint o waith cynnar ar osod amcanion ar gyfer eich cynllun. Beth ydych chi'n ceisio'i gyflawni trwy gyflawni'ch cynllun? Mae yna sawl ffordd o wneud hyn.
Y dechneg orau rydyn ni wedi'i darganfod yw rhoi ein hunain yn esgidiau'r gwahanol randdeiliaid trwy'r Gweithdy Gweledigaeth. Rhannwyd partneriaid yn dri gr?p a gofynnwyd iddynt feddwl o safbwynt tri gr?p gwahanol o randdeiliaid - cymunedau, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chystadleuwyr.
Yn eu grwpiau gofynnwyd iddynt ateb cwestiynau penodol ar dair thema graidd - yr amgylchedd, y gymuned a thwristiaeth. Roedd y cwestiynau a ofynnwyd gennym yn cynnwys:
- Ymhen 10 mlynedd beth fydd ein harweinwyr a'n gwleidyddion yn ddweud am .. [nodwch y thema / pwnc] yn Eryri?
- Ymhen 10 mlynedd beth fydd pobl leol yn ei ddweud am… [nodwch y thema / pwnc] yn Eryri?
- Ymhen 10 mlynedd beth fydd ein cystadleuwyr yn ei ddweud am… [nodwch y thema / pwnc] yn Eryri?
Mae'n holl bwysig sicrhau bod eich amcanion yn cael eu cytuno'n gynnar, felly, byddwch angen buddsoddi swm sylweddol o egni ac adnoddau yn hyn. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio hwylusydd medrus, yn enwedig os ydych chi'n gweithio gyda phartneriaeth o feysydd diddordeb eang. Cysylltwch a ni os hoffech gael rhai argymhellion.
Cam 3: Adeiladwch gynllun cyfathrebu, 2 wythnos
Bydd hyn yn cael ei adeiladu o amgylch y matrics ac fe fyddwch eisiau teilwra'ch cyfathrebiadau ar gyfer eich gwahanol grwpiau rhanddeiliaid h.y. p?er-uchel budd-uchel = i'w rheoli'n agos ac yn y blaen. Dylai eich Strategaeth Cyfathrebu fod mor syml a phosib, ac os oes gennych chi bobl eraill yn rhan o'ch ymgynghoriad dylech sicrhau bod ganddynt hwy'r cyfle i roi mewnbwn ac yna ymuno a'r strategaeth.
Y Cynlluniau Cyfathrebu mwyaf effeithiol yw'r rhai lle mae pawb yn dweud yr un peth.
Y prif elfennau fyddwch chi am eu cynnwys yn eich Cynllun Cyfathrebu fydd:
1. Prif nod a phwrpas yr ymgynghoriad (y canlyniadau rydych chi am eu cyflawni a pham).
2. Negeseuon allweddol - yn ddelfrydol uchafswm o dri (y prif bwyntiau rydych chi am eu cyfleu). Bydd y rhain yn cael eu hymgorffori ym mhob darn o gyfathrebu fyddwch chi'n eu rhoi / hanfon allan.
3. Is-bennawdau a hashnodau
4. Crynodeb byr (1 x tudalen ar y mwyaf) o wybodaeth am yr hyn rydych chi'n ymgynghori arno - bydd hyn yn ddefnyddiol i gyfeirio ato ar gyfer unrhyw un sy'n cymryd rhan mewn cyfweliadau / cyfryngau.
5. Holi ac Ateb - y prif gwestiynau neu faterion y mae pobl yn debygol o'u codi ac atebion i'r cwestiynau hyn. Byddwch yn gallu adeiladu ac addasu'r rhain ymhellach ar ?l i chi gynnal eich ymgynghoriad cynnar.
6. Grid / amserlen cyfathrebiadau - mapiwch y digwyddiadau a'r dulliau allweddol y byddwch chi'n eu defnyddio ar gyfer cyfathrebu (yn ogystal a'r dyddiadau y bydd y rhain yn digwydd) e.e. anfon e-bost lansio i'r holl randdeiliaid, erthygl papur newydd hanner ffordd drwodd ac ati.
7. Amserlen ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol gyda geiriad ar gyfer popeth fydd yn cael ei bostio yn barod ymlaen llaw.
Os hoffech chi gael templed o Gynllun Cyfathrebu, cysylltwch a ni.
Ac os ydych chi'n cynnal ymgynghoriad mawr neu ddadleuol, rwy'n argymell eich bod yn llogi ymgynghorydd sydd ag arbenigedd a phrofiad ym maes cysylltiadau cyhoeddus. Maen nhw'n werth eu pwysau mewn aur! Cysylltwch a ni os ydych chi'n chwilio am rai argymhellion.
Cam 4: Ymgynghoriad anffurfiol cynnar, 4 wythnos
Yn gynnar yn y broses mae'n werth casglu syniadau a barn mewn ffordd anffurfiol, er mwyn dechrau adeiladu darlun o'r pethau tebygol y mae pobl yn teimlo sy'n bwysig iddyn nhw. Gall hyn fod ar raddfa mor fach a chynnal ychydig o sgyrsiau ff?n, neu mor eang a chael presenoldeb mewn digwyddiadau cyhoeddus lle mae'ch rhanddeiliaid yn debygol o fod.
Bydd nodi rhai ‘enillion cyflym’ fel rhan o’ch taith ymgynghori hefyd yn hynod fuddiol i ymgysylltu a‘ch rhanddeiliaid. Mae'r rhain yn bethau a all ddangos cynnydd cadarnhaol. Mae'n helpu i ddangos i randdeiliaid bod cynnydd corfforol yn cael ei wneud tra'ch bod chi'n dal i drafod a chreu'r Cynllun.
Cam 5: Sefydlu gr?p craidd, yn barhaus trwy gydol y broses
Er mwyn helpu i gyflawni Cynllun Eryri fe wnaethom sefydlu gr?p craidd o randdeiliaid i'n helpu i wneud hyn.
Fe wnaethom sefydlu rhai meini prawf eithaf cadarn ar gyfer aelodaeth a r?l y gr?p hwn - er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ganolbwyntio. Fodd bynnag, mae'n werth meddwl am gadw pethau'n anffurfiol nes bod dynameg y gr?p wedi'i hen sefydlu.
Pethau eraill i'w hystyried wrth sefydlu ac adeiladu cydlyniant y gr?p hwn yw:
Ymdeimlad
Mae’r teimlad neu’r ‘ymdeimlad’ rydych chi am ei greu yn y pen draw yn cynnwys yr elfennau o fod yn
- Agored
- Yn onest (gyda pharch)
- Ymgysylltiol
- Perchnogaeth
Mae'n bwysig felly eich bod yn gweithio'n rhagweithiol tuag at hyn, boed hynny mewn cyfarfodydd neu mewn cyfathrebiadau eraill.
Bydd angen i chi wrando'n ofalus ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud a pharchu eu barn. Bydd angen i chi annog hyn hefyd ymysg pob aelod arall o'r gr?p - chi fydd y cyfryngwr ... y ceidwad heddwch. Ceisiwch helpu pobl i weld safbwynt y naill a'r llall.
Lleoliad
Gall y lleoliad lle rydych chi'n cwrdd gael cryn effaith ar ddeinameg eich cyfarfod. Mae'n werth ystyried cylchdroi o amgylch gwahanol seiliau'r gwahanol gynrychiolwyr dan sylw i annog ymdeimlad o berchnogaeth ac ymgysylltu.
Niferoedd
Mae'n debyg mai 10-15 yw'r mwyaf y byddwch chi ei eisiau mewn cyfarfodydd i gadw trafodaethau'n ddigon anffurfiol i wneud cynnydd, er mwyn sicrhau bod pawb yn teimlo'n ddigon cyfforddus i fod yn agored ac yn onest. Yn yr ystyr hwnnw, ni fyddwch eisiau mwy na 20-25 aelod o'r gr?p (yn seiliedig ar 60% ar gyfartaledd yn mynychu).
Gosodiad
Gall hyd yn oed y ffordd y mae eich ystafell wedi'i gosod gael effaith fawr. Y nod yw creu teimlad o ymgysylltu, natur agored a pherchnogaeth.
Ceisiwch gael pobl yn agosach at ei gilydd, gyda chysylltiad llygad hawdd. Yr ystafell fwrdd gylchol yw'r dull gorau oherwydd nad oes sedd ddominyddol, ond efallai y bydd maint y bwrdd yn eich cyfyngu. Fel arall, cynllun ystafell fwrdd hirgrwn sydd orau, ac yna ar ffurf ystafell fwrdd. Osgowch osodiad sy'n ymdebygu i ystafell fwrdd sydd a lle yn y canol - mae hyn yn creu teimlad o bellter.
Cam 6: Casglu Tystiolaeth, 2-4 mis yn dibynnu ar raddfa
Mewn unrhyw waith ymgynghori cychwynnol, fe all meddu ar rai ffeithiau a gwybodaeth i bobl eu trafod fod yn beth hynod o werthfawr. Gall hyn hefyd helpu i fynd i'r afael ag unrhyw ragdybiaethau anghywir am y maes pwnc o dan sylw.
Fe wnaethom gynhyrchu dogfen ymgynghori ar gyfer ein hymgynghoriad cychwynnol a oedd yn cynnwys yr holl ffeithiau a data am y Parc Cenedlaethol – yn amrywio o faint o ardal Eryri sydd wedi'i orchuddio a mawndir i lefelau gordewdra oedolion yn yr ardal o'i gymharu a Chymru gyfan.
Gall casglu'r holl ddata a ffeithiau a'i gyflwyno mewn fformat sy'n hawdd ei dreulio fel ffeithluniau gymryd llawer o amser ond mae'n werth yr ymdrech o ran ymgysylltu a'ch cynulleidfa.
Cam 7: Ymgynghori cychwynnol
Nod ein hymgynghoriad cychwynnol gyda Chynllun Eryri oedd casglu barn unrhyw un sydd a diddordeb yn y Parc Cenedlaethol.
Boed y bobl hynny'n byw, yn gofalu am, yn gweithio yn neu yn ymweld ag Eryri yn rheolaidd.
Roeddem am gynnal yr ymgynghoriad cynnar hwn, fel bod rhanddeiliaid yn cael cyfle i fwydo eu syniadau a'u safbwyntiau ar ddechrau'r broses. Fe wnaeth y safbwyntiau a'r syniadau hyn ein helpu ni wedyn i ffurfio drafft cyntaf o Gynllun Eryri ar ei newydd wedd.
Yr elfennau a ddefnyddiwyd yn ein hymgynghoriad cychwynnol oedd:
- Sioe deithiol gyhoeddus a ymwelodd a lleoliadau yng ngogledd a de'r Parc Cenedlaethol.
- Ymgyrch ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol.
- Arolwg ar-lein a hyrwyddwyd yn eang.
- Tri digwyddiad panel arbenigol.
- Poster a thaflenni wedi'u dosbarthu ledled y Parc Cenedlaethol.
- Sgyrsiau a chyfarfodydd i dynnu sylw'r rhanddeiliaid at yr ymgynghoriad.
- Postio'r ddogfen i'r holl gynghorau cymuned yn y Parc Cenedlaethol.
- Hyrwyddo trwy gylchlythyr rheolaidd.
- Erthyglau yn yr holl ‘Bapurau Bro’ lleol.
- Erthyglau a chyfweliadau yn y wasg leol a chenedlaethol.
- E-byst ar ddechrau, canol a diwedd yr ymgynghoriad i'r holl randdeiliaid sydd yn ein cronfa ddata.
- Cyfarfodydd un i un gyda sefydliadau allweddol
Cam 8: Tynnu'r holl wybodaeth at ei gilydd
Yn dibynnu ar faint eich ymgynghoriad ac argaeledd adnoddau, efallai yr hoffech ystyried cymorth allanol i dynnu'r holl ganlyniadau at ei gilydd a bwydo hwn i'ch cynllun terfynol.
Yr hyn sy'n bwysig yw bod y pethau sy'n dod drwodd yn gryf yn yr ymgynghoriad cychwynnol yn cael eu hadlewyrchu yn y ffordd rydych chi'n addasu'ch cynllun.
Yn ein hymgynghoriad cychwynnol, roedd teimlad cryf iawn bod angen i ni ail-feddwl ynghylch ein hagwedd / dull gweithredu tuag at dwristiaeth gyda phryderon cryf am yr effaith yr oedd gor-dwristiaeth yn ei chael ar yr amgylchedd naturiol a chymunedau yn y Parc Cenedlaethol.
Fe wnaethom addasu ein cynllun i adlewyrchu hyn, ac mae mesurau i symud tuag at dwristiaeth fwy cynaliadwy bellach yn rhan ganolog o Gynllun Eryri.
Yn fwy na dim, fe fyddwch chi am sicrhau bod eich cynllun terfynol yn ddiddorol ac yn hawdd ei ddarllen. Rydym wedi cynhyrchu fersiwn hawdd ei darllen o Gynllun Eryri sydd wedi cael adborth gwych.
Bydd angen sgiliau arbenigol arnoch i wneud hyn ond bydd y canlyniadau'n werth chweil. Rydyn ni'n wirioneddol falch o edrychiad, teimlad a pha mor ddarllenadwy ydi Cynllun Eryri.
Cam 9: Cael pawb i ymrwymo
Os ydych chi am gyflawni eich cynllun yn hytrach na'i fod yn eistedd ar silff yn casglu llwch, bydd angen i chi sicrhau bod gennych chi gynllun gweithredu cryf iawn ar waith, a chreu atebolrwydd cadarn dros gyflawni'r cynllun.
Rydyn ni wedi defnyddio’r dull RACI Matrix yn llwyddiannus sawl gwaith bellach, ac wedi ei chael yn hynod effeithiol wrth alluogi cyflawni.
Yn y b?n, mae'n ymwneud a chael sefydliadau a swyddogion penodol i ymrwymo ac i fod yn atebol am gyflawni gweithredoedd. - A chael rhestr o bwy fydd yn rhan o'r t?m cyflawni a phwy y bydd angen ymgynghori a nhw neu roi gwybod iddynt am y cynnydd.
Cam 10: Ymgynghoriad terfynol ar eich cynllun
Rydym bellach yn y cam ymgynghori olaf ar gyfer Cynllun Eryri - gallwch weld y cynllun yn fan hyn. Mae ein proses yn debyg i'r ymgynghoriad cychwynnol, yn yr ystyr ein bod am ymgysylltu a chymaint o'n rhanddeiliaid a phosibl.
Rydym yn defnyddio amrywiol ddulliau sydd wedi bod fwyaf effeithiol dros y blynyddoedd - traddodiadol a modern. Mae hyn yn cynnwys:
- Gweminarau byw gyda phanel o'n rhanddeiliaid craidd yn trafod ac yn ateb cwestiynau.
- Hysbysebion wedi'u targedu ar gyfryngau cymdeithasol.
- Cop?au caled o'r cynllun ar gael i'w gweld ac i gael mewnbwn iddynt mewn ystod eang o ganolfannau cymunedol ac mewn canolfannau croeso.
- Ymdrechion ar y cyd i gael stori'r ymgynghoriad i mewn i'r wasg.
Mae'r ymgynghoriad ar Gynllun Eryri yn gorffen ar y 13eg o Fawrth 2020. Byddwn yn parhau i ddysgu beth sy'n gweithio i sicrhau bod yr ymgynghoriadau a gynhelir gennym y gorau y gallant fod, ac rwy'n si?r y byddwn yn ennill gwybodaeth hynod o ddefnyddiol bellach yn sgil y broses hon.
Rhannwch eich sylwadau, eich syniadau a’ch cwestiynau os gwelwch yn dda. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Am yr Awdur
Helen Pye - Pennaeth yr adran Ymgysylltu, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Helen Pye wedi gweithio i Barciau Cenedlaethol ers dros 10 mlynedd bellach, ac ar ?l ennill gradd mewn Cadwraeth, dechreuodd ei gyrfa gynnar ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog lle arweiniodd ar greu Gynllun Rheoli Sirol Waterfall.
Bum mlynedd yn ?l symudodd yn ?l i Ogledd Cymru i ymuno a Pharc Cenedlaethol Eryri fel Warden Ardal Yr Wyddfa. Yn y r?l hon y sefydlodd Bartneriaeth Yr Wyddfa. Yn dilyn hynny, rheolodd d?m ceidwaid yr ardal ogleddol fel Uwch Warden Gogledd Eryri ac yna aeth ymlaen i ddatblygu Cynllun Eryri.
Bellach mae Helen yn bennaeth ar yr Adran Ymgysylltu ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Un o'r timau yn ei hadran yw'r t?m polisi a phartneriaethau sy'n arwain ar ddatblygiad Cynllun Eryri a Phartneriaeth yr Wyddfa.
O dan reolaeth Angela Jones – y Rheolwr Partneriaethau - mae'r t?m hwn wedi creu Cynllun Rheoli'r Parc Cenedlaethol newydd arloesol yn ogystal a chydlynu Fforwm Eryri - fforwm sy'n dwyn ynghyd y sefydliadau sy'n gweithredu ac yn cyflawni amcanion y Parc Cenedlaethol o fewn y Parc Cenedlaethol.
Mae t?m Angela hefyd yn rhedeg Partneriaeth Yr Wyddfa. Mae'r Bartneriaeth - a gydlynir gan Catrin Glyn, Swyddog Partneriaeth Yr Wyddfa - yn dwyn ynghyd yr holl sefydliadau sy'n gyfrifol am edrych ar ?l Yr Wyddfa i ddatblygu cynllun partneriaeth ar gyfer y mynydd. Mae'r cynllun arobryn hwn wedi denu diddordeb rhyngwladol o bell ac agos fel lleoedd fel Norwy a Siapan.
Gwybodaeth bellach:
I weld yr ymgynghoriad ar Gynllun Eryri ewch i weld: https://www.snowdonia.gov.wales/authority/working-in-partnership/consultation
I weld Cynllun Yr Wyddfa a darllen mwy am waith y Bartneriaeth ewch i weld www.snowdonpartnership.co.uk
Mae Helen a'i th?m yn hapus i rannu gwybodaeth, yr hyn maen nhw'n ei wybod a rhoi cyngor fwy manwl. Os hoffech drafod unrhyw beth pellach gallwch gysylltu trwy Linked-In.