Ymateb i'r ymgynghoriad ar y cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol

Ymateb i'r ymgynghoriad ar y cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol

Gan weithio mewn partneriaeth a'r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC) rydym yn datblygu Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol.

Ar gyfer yr ymgynghoriad, rydym yn gwahodd staff gofal sylfaenol i lenwi dwy ffurflen i roi adborth ar nodau’r cynllun

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan hanner nos ar 6 Hydref 2023.

Fel rhan o ymgysylltiad ehangach yr ymgynghoriad, gwahoddir staff gofal sylfaenol i gymryd rhan yn yr Asesiad Effaith Cydraddoldeb (AEG).

Mae’r AEG ar agor tan 6 Hydref 2023, yn unol a’r cam ymgynghori. Gellir ei chyflwyno’n ddienw neu drwy e-bost: [email protected].

Mae pobl sy’n uniaethu ag un neu fwy o’r nodweddion canlynol yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr AEG:

  • ailbennu rhywedd (gan gynnwys anneuaidd / rhyw niwtral)
  • oed
  • anabledd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • Rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol
  • Y Gymraeg
  • Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • gofalwyr

Mae’r AEG yn rhoi cyfle i staff a nodweddion gwarchodedig rannu effeithiau cadarnhaol neu negyddol y dylid eu hystyried wrth lunio’r cynllun.

要查看或添加评论,请登录

Health Education and Improvement Wales (HEIW)/Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)的更多文章

社区洞察

其他会员也浏览了