Y T? Arian - S4C (English below)

Ceiniog a enillir yw'r geiniog a gynilir mewn cyfres newydd

Chwe theulu, chwe phennod, un nod gyffredin. Bydd pob teulu'n mynd i mewn i'r T? Arian yng nghyfres hwyliog newydd S4C i ddysgu mwy am eu harferion gwario mewn ymgais i arbed arian a chynilo ar gyfer rhywbeth penodol - gwyliau neu gar delfrydol efallai…

Fel rhan o arbrawf cymdeithasol dadlennol a difyr dros gyfnod o 48 awr, cawn wylio pob teulu'n cael detocs ariannol, ac arweiniad arbenigol i nodi'r meysydd lle maen nhw'n gorwario a lle mae'n bosib iddyn nhw gynilo. Ar ddiwedd pob rhaglen, bydd y camerau yn dychwelyd i glywed beth maen nhw wedi ei ddysgu o fod yn Y T? Arian.

Vicky Williams o Lanfrothen yw mam y teulu cyntaf i fynd i mewn i'r T? Arian. Mae ganddi hi a'i g?r Aled bump o blant a chawn weld tair ohonyn nhw ar y sgrin. Ym mhrysurdeb eu bywydau, a fyddan nhw'n gallu ffeindio'r opsiynau bwyd gorau i borthi pawb am y pris rhataf? 

Ar drothwy'r bennod gyntaf, dywedodd Vicky, "Mae wedi dod a ni lot fwy agos fel teulu. 'Dan ni'n deulu agos eniwê ond dwi'n meddwl, o dynnu'r holl geriach sy' gynnon ni adra', fath a thechnoleg, mae hynna wedi ein dysgu ni bod ni'n gallu cael laff a chwerthin heb orfod iwsio'r petha' 'ma."

Yn cadw llygad ar y teuluoedd yn Y T? Arian bydd y cyflwynwyr poblogaidd Dot Davies a Leah Hughes wrth i ni ddilyn y camerau y tu mewn i'r T? Arian.

Dywedodd Dot Davies, "Mae'n gyfres gyffrous i S4C achos mae'n gwbl arloesol. Mae 'na griw camera'n gwylio'r teuluoedd yn y t?; mae heriau gwahanol a sawl elfen i'r rhaglen. Mae'n mynd mor gyflym ac mae cymaint o bethau'n digwydd. Allwch chi ddim peidio a chynhesu at y bobl sy'n cymryd rhan; allwch chi ddim peidio a'u lico nhw."

Yn ?l y cynhyrchydd Catrin Honeybill o Boom Cymru, "Dydyn ni byth yn canolbwyntio ar y pethau yma fel teulu. Bydd y gyfres yn cynnig amser i wneud hyn ac yn arwain at newidiadau positif yn y dyfodol."

Diben y rhaglen, meddai, yw cynnig "sioc fach" i'r teuluoedd a fydd yn cael cyllideb, sy'n golygu y bydd yn rhaid iddyn nhw baratoi arian parod ar gyfer bwyd, biliau a gweithgareddau hamdden.

Cawn gwrdd a chwe theulu o wahanol ardaloedd yn ystod y gyfres – Llanfrothen, Aberystwyth, Merthyr Tudful, Caerffili, Brithdir (Dolgellau) a Waunfawr. Mae gan bob teulu flaenoriaethau gwahanol ac fe fydd eu cyllidebau a'r heriau y byddan nhw'n eu hwynebu'n amrywio.

Yn aml iawn, gall arferion drwg ei gwneud hi'n anodd cynilo. A fydd cael gwared ar yr arferion hyn yn ei gwneud hi'n haws i'r teuluoedd gyrraedd eu nod yn y pen draw? A fydd y darnau arian yn disgyn i'w lle mewn pryd? Sut byddan nhw'n ymdopi a heriau'r T? Arian? Ac yn bwysicaf oll, a fyddan nhw'n llwyddo i gynilo digon o arian ar gyfer eu gwyliau delfrydol?

Ychwanegodd Vicky Williams, "Wnaeth o les i fi i fynd i'r t? achos ro'n i'n sylweddoli fy mod i'n prynu pethau rhag ofn. Dwi'n dueddol o brynu lot sy'n mynd i wast wedyn. Mae'r g?r yn trio bod yn reit gyfrifol ond rhaid i mi dd'eud, dwi braidd yn wirion efo pres. Dyna pam aethon ni ar y rhaglen – dwi'n meddwl bod y g?r yn trio dysgu gwers i fi! Dwi wedi'i dysgu r?an."

Y T? Arian

Nos Iau 19 Ebrill 8.00, S4C                       

Cynhyrchiad Boom Cymru ar gyfer S4C


A penny saved is a penny earned in a new S4C series

Six families, six episodes, one common aim. In a new and entertaining series on S4C, each family will enter the Y T? Arian (Money House) in the hope of learning more about their spending habits. The aim is to save money for something specific, such as a dream holiday or car.

As part of a revealing and light-hearted social experiment over 48 hours, we watch as each family receives expert guidance to identify areas where they overspend and where they can save money. The cameras will return later to find out what they've learned from their experience in Y T? Arian.

Vicky Williams from Llanfrothen is the mother of the first family to enter Y T? Arian. She and her husband Aled have five children, three of whom appear on screen. With such busy lives, will they find the best food options to feed the family at the lowest cost? Ahead of the first episode, she said, "It's brought us closer as a family. We're a close family anyway but I think by withdrawing from all the stuff we have at home such as technology, it's taught us we can have a laugh without having to use these things."

Keeping a watchful eye on the families during their time in the house will be popular presenters Dot Davies and Leah Hughes as we follow the cameras into Y T? Arian.

Dot Davies said, "It's an exciting series for S4C because it's innovative. A camera crew will be following the families into the house and there are challenges and a number of elements to the programme. It goes so quickly and there's lots going on. The families are people you can't help but warm to. You can't help but like them."

According to producer Catrin Honeybill of Boom Cymru, "We don't often focus on these things as a family. The series will set aside some time to do this and lead to positive changes in the future."

The aim of the programme, she says, is to give the families a "short, sharp shock" as they're given a budget to work within, meaning they'll have to put cash aside for food, bills and leisure activities.

We meet six families during the series, each from a different area of Wales - Llanfrothen, Aberystwyth, Merthyr Tydfil, Caerphilly, Brithdir (Dolgellau) and Waunfawr. The priorities of each family are different and their budget, as well as the challenges they face, will vary. 

Very often, bad habits can make saving difficult. Will eradicating these habits make it easier for the families to reach their ultimate goal? And will the penny drop in time? How will they cope with the challenges in the Money House? And most importantly, will they save enough for their ideal holiday?

Vicky Williams added, "It did me good to go into the house because I realised I buy anything and everything, just in case. I tend to buy a lot that goes to waste. My husband tries to be responsible but I'm quite silly with money. That's why we went on the programme – I think my husband was trying to teach me a lesson! And I've certainly learned it."

Y T? Arian

Thursday 19 April 8.00, S4C

A Boom Cymru production for S4C

要查看或添加评论,请登录

社区洞察

其他会员也浏览了