Sut helpodd Dyfodol Myfyrwyr fi i benderfynu ar fy llwybr gyrfa
CU Student Futures / Dyfodol Myfyrwyr CU
Your future starts now | Mae dy ddyfodol yn dechrau nawr
Gan Khadija Uddin, MSc Rheolaeth Ryngwladol
Mae fy mhrofiad gyda Dyfodol Myfyrwyr wedi bod yn ddefnyddiol, ac yn galonogol iawn! Cefais gymorth gan Dyfodol Myfyrwyr a Chynghorwyr Gyrfaoedd yn gyntaf pan oeddwn yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol. Eleni, dechreuais feddwl ragor am fy ngyrfa a pha elfennau o fy ngradd yr oeddwn am ganolbwyntio arnynt yn fwy penodol. Pan gefais i gymorth gan y brifysgol a chwrdd a chynghorydd am y tro cyntaf, roeddwn yn teimlo’n dawel fy meddwl! Mae’n deimlad da pan mae rhywun yn eich sicrhau eich bod yn mynd i’r cyfeiriad cywir ac yn cynnig awgrymiadau i’ch helpu.
Roeddwn yn hoffi’r ffaith ein bod wedi llunio cynllun gweithredu strategol yn ein cyfarfod cychwynnol. Roedd hyn yn cynnwys ystyried sut i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith a fyddai'n cefnogi fy ngheisiadau yn y dyfodol. Astudiais Newyddiaduraeth, Cyfathrebu a Gwleidyddiaeth ar gyfer fy ngradd israddedig. Sylweddolais fod yr agwedd wleidyddiaeth yn apelio ataf yn fwy na’r agwedd newyddiaduraeth o fy ngradd cydanrhydedd. Dechreuais chwilio am gyfleoedd yn y sector cyhoeddus, a gwelais gyfle yn GIG Cymru ar Hysbysfwrdd Swyddi Dyfodol Myfyrwyr! Roeddwn i'n meddwl, waw, dyma'n union beth roeddwn i eisiau, cyfle i edrych ar reoli prosiectau mewn amgylchedd gwaith go iawn, a oedd yn wahanol i'r gwaith roeddwn i wedi ei weld eisoes.
Yna daeth y broses ymgeisio, lle roeddwn yn teimlo fy mod wedi fy llethu, gan fy mod yn awyddus iawn i ragori. Cwrddais a chynghorydd eto, a roddodd gyngor wedi’i deilwra i mi ar fy nghais, CV a llythyr eglurhaol. Rhoddodd hwn hwb i fy hyder yn fy ngallu i gyfleu fy nghryfderau a’m set sgiliau i wneud cais i’r byd gwaith!
领英推荐
Ers hynny, rydw i wedi cael dwy interniaeth rheoli prosiectau yn y GIG, gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW)! Mae gweithio ar y prosiectau hyn wedi bod yn brofiad unigryw a defnyddiol. Gyda chefnogaeth aruthrol Dyfodol Myfyrwyr, rydw i wedi datblygu fy ngallu i drosglwyddo gwybodaeth mewn ffordd sy’n arddangos fy sgiliau’n effeithiol, sy’n hollbwysig pan fydd recriwtwyr yn edrych ar geisiadau.
Roedd fy interniaeth ddiweddaraf yn Uned Ansawdd HEIW, o fewn Llywodraethu Ymchwil. Dysgais sgiliau gwerthfawr megis meddwl yn feirniadol a dadansoddi data, a sut i gymhwyso'r wybodaeth ddamcaniaethol rydw i wedi'i hennill o fy ngradd a'i chymhwyso ar lefel ymarferol. Mwynheais y cyfle hwn yn fawr, gan ei fod yn interniaeth strwythuredig gydag amrywiol elfennau wedi'u hymgorffori i ddatblygu ein sgiliau’n interniaid, a gwybodaeth am strwythurau'r GIG. Roedd yn agoriad llygad i weld pa mor fawr yw’r GIG mewn gwirionedd, a sut y gallwn ni’r myfyrwyr gyfrannu at ei weithrediadau!
Os ydych chi'n poeni am gais, neu'ch rhagolygon swydd yn y dyfodol, byddwn yn argymell cael cymorth gan Dyfodol Myfyrwyr. Gall eich helpu i fynd ymhellach a chael gwahanol gyfleoedd nad ydych yn ymwybodol eu bod yn bodoli ac sy'n berthnasol i ddisgyblaeth eich gradd! Gall Dyfodol Myfyrwyr eich arwain ac argymell cyfleoedd gwych a all wneud gwahaniaeth enfawr i'ch CV a'ch profiad!