Sut brofiad yw gwneud interniaeth mewn g?yl gerddorol?
CU Student Futures / Dyfodol Myfyrwyr CU
Your future starts now | Mae dy ddyfodol yn dechrau nawr
Dewch i weld beth wnaeth Rubie ar ei hinterniaeth a thal yng Ng?yl y Dyn Gwyrdd a pham y byddai Rubie yn argymell profiad gwaith i eraill.
?Yr haf yma, cefais gyfle i gael profiad gwaith gwych yn yr ?yl fwyaf yng Nghymru, G?yl y Dyn Gwyrdd drwy Brofiad Gwaith Prifysgol Caerdydd. Fy r?l oedd Cynorthwy-ydd y Wasg a Marchnata’r ?yl. Bues i’n gweithio gyda’r t?m yn eu cefnogi wrth iddynt baratoi ar gyfer yr ?yl yn y swyddfa yn Llundain ac yna’n gweithio gyda nifer o bobl ar y safle yn yr ?yl. Roedd nifer o interniaid mewn amrywiaeth o rolau’n gweithio gyda'r t?m cyfan.
Cefais amrywiaeth o gyfrifoldebau a wnaeth fy helpu i ddatblygu fy sgiliau hunanreoli ac i ddilyn cyfarwyddiadau’n fanwl. Roedd y rhain yn cynnwys prawfddarllen, cymryd nodiadau mewn cyfarfodydd, rheoli tudalennau’r cyfryngau cymdeithasol a threfnu tocynnau gwesteion ar gyfer timau amrywiol o’r wasg a oedd yn ymuno a ni ar y safle. Roeddwn yn cefnogi fy rheolwr o fewn y cwmni ond hefyd yn gwneud yn si?r bod timau’r wasg a’r newyddiadurwyr yn yr ?yl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn cael yr hyn yr oedd ei angen arnynt i wneud eu swydd mor ddiffwdan a phosibl.
Roedd gweithio mewn g?yl gerddoriaeth yn brofiad gwych, cael gwrando ar gerddoriaeth fyw anhygoel ond hefyd dysgu am yr ochr fusnes o redeg g?yl, a oedd yn brofiad amhrisiadwy. Cefais gyfle i siarad a’r perchennog am y diwydiant ac i helpu’r rheolwyr i ddelio a phroblemau drwy gydol yr haf, ac mae’r cyngor a gefais yn rhywbeth na fyddaf byth yn ei anghofio. Er mwyn cydbwyso ystod o gyfrifoldebau a rolau roedd angen trefnu a rheoli amser er mwyn gwneud yn si?r nad oedd tasgau'n cael eu hesgeuluso pan fyddai materion eraill yn dod i'r amlwg. Ond gydag amrywiaeth o bobl wych ar y t?m a chefnogaeth gan Brifysgol Caerdydd os oedd ei angen arnaf, roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi ac felly’n hapus i fanteisio i’r eIthaf ar fy nghyfnod gyda’r Dyn Gwyrdd.
领英推荐
Roedd y cyngor ges i gan y t?m yn wych ond gwnaeth ysbryd yr ?yl argraff arnaf. Roedd gweithio mewn amgylchedd swyddfa yn brofiad newydd i mi, ond cefais fy nghroesawu ac fe’n hanogwyd i ofyn cwestiynau am y gwaith yr oeddem yn ei wneud. Roedd pawb yn fodlon siarad am eu profiadau o ddechrau yn y diwydiant a chynnig eu barn a chyngor. Roedd gweithio gydag ystod mor amrywiol o bobl wir wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu a fy ngwneud yn fwy ymwybodol o gymhlethdodau gweithio gyda chymaint o wahanol bobl.
Mae cael profiad gwaith yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol mor bwysig. Gall eich helpu i wneud argraff dda ar gyflogwyr y dyfodol, gan brofi eich gallu i gymhwyso eich hun i wahanol swyddi ochr yn ochr ag astudiaethau academaidd. Mae datblygu sgiliau personol ochr yn ochr a rhai academaidd a chymhwyso sgiliau academaidd yn brofiad na ellir ei wneud yn y brifysgol yn unig. Felly mae cael profiad gwaith yn ffordd wych o wneud hyn. P’un a yw mewn r?l y mae gennych rywfaint o brofiad ynddi’n barod, neu ddiwydiant yr ydych am ddod i wybod rhagor amdano, does dim o’i le mewn gwneud cais, ennill profiad ar gyfer cyfweliadau ac efallai cael haf anhygoel!
?Gan Rubie Barker, MA Llenyddiaeth Saesneg