SparcX - Taniwch eich gyrfa
Ddoe fe ddaru M-SParc gynnal ffair yrfaoedd gyda gwahaniaeth! SparcX oedd ei enw, ac roedd yn llwyddiant ysgubol! Daeth y digwyddiad a cheiswyr gwaith angerddol ynghyd a busnesau blaengar o’r sector gwyddoniaeth a thechnoleg – busnesau a oedd yn recriwtio! Darparodd SparcX gyfle unigryw i'r ddau gr?p gysylltu, rhwydweithio ac ysbrydoli ei gilydd.
I'r rhai ohonoch sydd ddim yn gwybod erbyn hyn; Mae M-SParc yn darparu gofod labordy a swyddfa i gwmn?au yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg, gyda ffocws ar feithrin arloesedd, cydweithio a thwf. 'Da ni'n darparu cymorth busnes pwrpasol i helpu’r cwmn?au hynny i ffynnu, ac mae’r cyflog cyfartalog yn M-SParc bron i £5k yn fwy na chyfartaledd Cymru. Fodd bynnag, 'da ni'n ymwybodol iawn o’r bwlch sgiliau sy’n bodoli yn y diwydiant ac yn gweithio’n ddiflino i bontio’r bwlch hwn drwy gynnal digwyddiadau fel SparcX, a thrwy ein rhaglen Sgil-SParc.
Oeddech chi’n gwybod bod 7,000 o bobl yng Ngogledd Cymru yn cael eu cyflogi mewn swyddi sgiliau digidol lefel uwch, ond mae cymaint a 27,000 o bobl yn cael eu tangyflogi? Mae angen cynnydd o 23% yn nifer y meddianwyr proffesiynol yn y sector ynni a’r amgylchedd erbyn 2024, a chynnydd o 20% mewn galwedigaethau cyswllt a thechnegol. Dyma’r bwlch sgiliau rydyn ni’n ceisio’i bontio.
Yn ystod SparcX, roedd yr awyrgylch yn drydanol, gyda’r mynychwyr brwdfrydig yn cyflwyno eu hunain ac yn rhannu eu profiadau a’u dyheadau. Gall sefyll o flaen cynulleidfa a siarad amdanoch chi'ch hun fod yn heriol, ond roedd pobl yn gwneud eu gorau glas ac yn gweld y manteision! Darparodd y sesiwn rwydweithio'r llwyfan perffaith i geiswyr gwaith siarad a busnesau, gofyn cwestiynau, a dysgu mwy am y diwydiant. Ac, wrth gwrs, roedd barbeciw i gloi; pa awyrgylch gwell i drafod gyrfaoedd?
领英推荐
I geiswyr gwaith - gan gynnwys graddedigion, myfyrwyr Prifysgol Bangor, a'r rhai oedd yn meddwl newid gyrfa - roedd mynychu SparcX yn brofiad gwerthfawr iawn. Roedd yn gyfle i gwrdd a phobl ysbrydoledig, dysgu am gyfleoedd newydd a chyffrous yn y sector gwyddoniaeth a thechnoleg, a gwneud cysylltiadau gwerthfawr a allai helpu i lunio eu llwybr gyrfa.
I fusnesau, roedd mynychu SparcX yr un mor werthfawr. Roedd yn gyfle i arddangos eu hangerdd dros arloesi, cyfarfod a recriwtio ceiswyr gwaith dawnus, a rhwydweithio gyda busnesau eraill yn y diwydiant.
Roedd SparcX yn enghraifft wych o sut y gall p?er cymuned ysbrydoli arloesedd, ysgogi twf, a chreu dyfodol mwy disglair i bawb. Oeddech chi yno?