Pam mae profiad gwaith yn bwysig i gyflogwyr?

Pam mae profiad gwaith yn bwysig i gyflogwyr?

?Gan Laura, Inspiring Interns

Mae’n dod yn bwysicach nag erioed i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn sy'n awyddus i fentro i fyd gwaith ar ?l graddio, fod wedi ymgymryd a phrofiad gwaith. Pam? Yn syml, oherwydd bod mwy o gyflogwyr bellach angen gweld tystiolaeth ohono yn ystod y broses recriwtio, felly mae'n rhywbeth na ellir ei anwybyddu os ydych chi’n ysu i ddod o hyd i swydd neu interniaeth i raddedigion yn eich maes.

Nid ased gwerthfawr i gyflogwyr yn unig yw hyn fodd bynnag, gall hefyd eich rhoi chi mewn sefyllfa dda pan fyddwch yn chwilio am swydd. Wrth ymgymryd a phrofiad gwaith, byddwch yn wynebu heriau yn y byd go iawn na fyddwch erioed wedi'u profi o'r blaen. Cewch hefyd ddod i ddeall yn well a yw’r diwydiant yn gweddu i chi, ac a yw hi’n yrfa y gallech ei hystyried ar gyfer y tymor hir.

No alt text provided for this image

Dyma rai o'r rhesymau pam y mae cyflogwyr yn cael eu denu at weithwyr sydd a phrofiad gwaith:

1.????Rydych chi wedi datblygu sgiliau trosglwyddadwy

Yn yr oes sydd ohoni, mae cyflogwyr yn chwilio am un ased allweddol: sgiliau trosglwyddadwy.

Waeth beth yw natur y profiad gwaith neu'r diwydiant, mae'n debygol y byddwch wedi ennill sgiliau y gellir eu defnyddio mewn unrhyw amgylchedd neu senario yn y gweithle. Mae angen i'r sgiliau hyn fynnu sylw’r cyflogwr wrth iddynt ystyried eich CV. Heb brofiad gwaith, mae'n anodd profi bod gennych y sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i lwyddo mewn unrhyw swydd, a gallai hyn effeithio ar eich siawns o gael cynnig y swydd.

Mae sgiliau trosglwyddadwy yn cynnwys:

  • Arweinyddiaeth
  • Cyfathrebu
  • Gwaith t?m
  • Bod yn drefnus
  • Ethig gwaith
  • Rheoli eich amser

Yn eich CV, rhowch enghreifftiau manwl o adegau allweddol yn ystod eich lleoliad profiad gwaith pan fu’n angenrheidiol i chi roi'r sgiliau hyn ar waith.

2.????Mae’n dangos ymroddiad a brwdfrydedd

Bydd cyflogwr bob amser yn meddwl yn ffafriol am ymgeiswyr sydd wedi mynd allan o'u ffordd i ddysgu eu crefft a hogi eu sgiliau yn eu hamser rhydd, efallai o gwmpas eu hastudiaethau. Mae hyn yn dangos yn glir i'r cyflogwr eich bod yn frwdfrydig am symud ymlaen yn eich gyrfa a’ch bod yn ymroddedig – y ddau yn asedau personol y mae pob cyflogwr yn chwilio amdanynt mewn ymgeiswyr.

3.????Rydych chi'n deall beth yw pwrpas y diwydiant

Mae rhai graddedigion yn gadael y brifysgol heb unrhyw ddealltwriaeth o beth yw'r profiadau realistig o ddydd i ddydd yn eu diwydiant. Felly, heb brofiad gwaith, sut gallan nhw benderfynu a yw'r yrfa yn gweddu iddyn nhw mewn gwirionedd?

Mae cyflogwyr yn ystyried hyn yn ystod y broses o ddewis ymgeiswyr. Ceir risg o roi swydd i rywun a allai ddarganfod nad oes ganddyn nhw ddiddordeb yn y diwydiant ac a fydd efallai’n gadael ychydig fisoedd yn unig ar ?l dechrau. Fodd bynnag, mae'r rhai sydd a phrofiad gwaith yn opsiwn llawer mwy diogel i gyflogwyr gan fod gan y personau hynny syniad eisoes o beth i'w ddisgwyl.

Os ydych chi wedi cwblhau lleoliad profiad gwaith yn ddiweddar ac yn chwilio am swyddi neu interniaethau, i raddedigion, edrychwch ar hysbysfwrdd swyddi Interniaethau sy’n Ysbrydoli (Inspiring Interns) i ddod o hyd i swyddi ym mhob sector.

Ewch i’ch cyfrif Dyfodol Myfyrwyr i chwilio am gyfleoedd profiad gwaith a gwneud cais amdanynt.

要查看或添加评论,请登录

CU Student Futures / Dyfodol Myfyrwyr CU的更多文章

社区洞察

其他会员也浏览了