Myfyrwyr ysbrydoledig yn ennill gwobrau cychwyn busnes

Myfyrwyr ysbrydoledig yn ennill gwobrau cychwyn busnes

Mae syniad busnes ysbrydoledig i gynnig dosbarthiadau dawnsio Affro a s?n wrth bobl am y diwylliant Affricanaidd wedi dod yn gyntaf yng Ngwobrau Cychwyn Busnes Chwilotwr Chwilfrydig, cystadleuaeth sy'n cael ei chynnal gan Brifysgol Caerdydd.

?Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr canlynol:

  • Enillydd – Plamedi Santima-Akiso (BSc Cemeg)
  • Yn Ail – Catrin Fry (MSc Marchnata)
  • Yn Ail – Daniel Farrell-Flynn (MScEcon Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus)?

Bydd yr enillydd arloesol a’r rhai a ddaeth yn ail yn cael gwobr ariannol, yn ogystal a sesiynau mentora a chymorth parhaus gan y T?m Dyfodol Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn rhan o'r gystadleuaeth, cyflwynodd y myfyrwyr eu syniad busnes i banel o feirniaid allanol. Gofynnwyd iddynt ddangos beth oedd eu syniad busnes, pwy fyddai eu cwsmeriaid a sut y byddant yn gwneud arian.

Llongyfarchiadau mawr i’r enillydd a’r rhai ddaeth yn ail, a da iawn i bawb a gymerodd ran.

Rhagor o wybodaeth am y myfyrwyr a'u syniadau busnes:

Enillydd – Plamedi Santima-Akiso (gwobr o £1,500)

Busnes: AFJ Cardiff

No alt text provided for this image
?"Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer ac yn fy annog hyd yn oed yn fwy i barhau i weithio tuag at fy nod, sef gwneud dawnsio Affro'n rhan fawr o'm dinas a sicrhau bod harddwch y diwylliant Affricanaidd yn cael ei gynrychioli drwy fyd dawns yng Nghaerdydd." – Plamedi

?

Y syniad:

Y syniad yw creu busnes sy'n cynnig dosbarthiadau dawnsio Affro i bawb a s?n wrth bawb am y diwylliant Affricanaidd. Y nod yw cynnig man iach lle mae dawnswyr Affro (neu bobl sydd a diddordeb mewn dawnsio Affro), a all fod a gwreiddiau Affricanaidd a/neu Garib?aidd neu beidio, yn gallu dod ynghyd i rannu eu hoffter ohono, datblygu’n ddawnswyr a chael rhagor o wybodaeth am arwyddocad diwylliannol/hanesyddol dawnsio Affro, gan greu ymdeimlad o berthyn i bawb. Y nod hefyd yw gwneud dawns yn adnodd dysgu creadigol. Bydd gwahanol arddulliau/technegau dawnsio Affro’n cael eu cyflwyno i’r unigolion, a bydd yr unigolion yn datblygu eu gallu/potensial creadigol.

Cyfryngau cymdeithasol:

  • Chwilio ‘AFJ Cardiff’
  • LinkedIn: @plamedi Santima-Akiso?

No alt text provided for this image

Yn ail: Catrin Fry (gwobr o £500)

Busnes: Equanimity Marketing

No alt text provided for this image
“Mae’r wobr hon nid yn unig wedi rhoi cymorth ariannol a phroffesiynol i mi ar fy nhaith fusnes ond hefyd wedi fy ysgogi a datblygu fy hyder i ddal ati i weithio’n galed er mwyn cyflawni fy nodau entrepreneuraidd a llwyddo.” – Catrin

Y syniad:

Nod Equanimity Marketing yw cynnig pecynnau marchnata fforddiadwy ac effeithiol i fusnesau bach a chanolig er mwyn gwella’r busnesau hynny, sy’n rhoi’r busnesau mewn rheolaeth.

Y syniad yw creu platfform (gwefan/ap) y gall busnesau bach a chanolig danysgrifio iddo. Bydd yn cynnig cynlluniau marchnata wedi'u teilwra iddynt (cynlluniau 12 wythnos sy'n adnewyddu’n awtomatig ac yn gosod nodau newydd), sy'n galluogi perchnogion busnes i reoli eu gweithgarwch marchnata eu hunain ond cael cymorth ar sut i farchnata eu busnes yn llwyddiannus. Er mwyn sicrhau hyblygrwydd a rheolaeth, bydd Equanimity Marketing yn cynnig tair lefel danysgrifio.

?Instagram: equanimitymarketing

No alt text provided for this image

Yn ail: Daniel Farrell-Flynn (gwobr o £500)

Busnes: Perevot Translation?

No alt text provided for this image
Rwy’n falch iawn o ddod yn ail ar gyfer y wobr hon. Mae’n golygu llawer iawn bod fy syniad busnes wedi gwneud digon o argraff ar y beirniaid i ddod yn ail.” – Daniel


Y syniad:

Mae Perevot Translation yn blatfform newydd arloesol a fydd yn helpu i gysylltu cyfieithwyr a’r unigolion a’r busnesau hynny y mae angen cyfieithiadau cyflym, fforddiadwy ac o ansawdd uchel arnynt. Byddwn yn datblygu gwefan ac ap a rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio sy'n paru pobl yn ?l meini prawf penodol, fel ieithoedd, arbenigedd, cyflymder a phris. Mae'r sector cyfieithu byd-eang yn enfawr, ond ychydig o gwmn?au mawr sydd a lle blaenllaw ynddo o hyd. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd i gyfieithwyr newydd ymsefydlu. Rydym am alluogi’r rhai sy’n cyfieithu’n barod a chyfieithwyr newydd i weithio ar eu liwt eu hunain a lleihau'r costau afresymol y mae'n rhaid i bobl eu talu pan fydd angen cyfieithiadau arnynt.

Oes gennych chi synid ar gyfer busnes neu fenter gymdeithasol? Rhagor o wybodaeth am sut y gall y T?m Dyfodol Myfyrwyr eich helpu i wireddu eich syniad

要查看或添加评论,请登录

社区洞察

其他会员也浏览了