Myfyrwyr blwyddyn olaf: Paratoi ar gyfer byd gwaith!
CU Student Futures / Dyfodol Myfyrwyr CU
Your future starts now | Mae dy ddyfodol yn dechrau nawr
Nawr eich bod yn agosáu at raddio, mae'n bryd dechrau meddwl am eich camau nesaf. Ydych chi'n awyddus i gael swydd i raddedigion? Os felly, rydych chi wedi dod i'r lle iawn, gan ein bod ni'n mynd i roi awgrymiadau da i chi ar sut i baratoi eich hun ar gyfer y gweithle.
Dod o hyd i'r swydd iawn
Ar ?l gorffen eich astudiaethau, efallai na fydd gennych unrhyw syniad pa fath o swydd yr hoffech ei gwneud. Peidiwch a phoeni, mae hwn yn gyfyng-gyngor sy’n wynebu nifer sylweddol o raddedigion, felly dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Gall eich gradd agor cyfleoedd i weithio mewn nifer eang o feysydd, felly efallai y byddai'n syniad ystyried pa agweddau ar eich gradd y gwnaethoch eu mwynhau fwyaf a sut y gellid cymhwyso'r wybodaeth hon yn y byd gwaith. Efallai fod yna sector o’ch gradd yr hoffech chi ei archwilio ymhellach?
Mae angen i chi feddwl yn ofalus am y ffactorau hyn i roi sylfaen gadarn wrth chwilio am swydd a rhoi mwy o ymdeimlad o gyfeiriad i chi am y diwydiannau a allai fod yn addas ar gyfer eich diddordebau a'ch sgiliau.
Dangoswch eich bod yn deall yr hyn y mae'r cyflogwr yn chwilio amdano
Felly - rydych chi wedi dod o hyd i swydd sy'n bodloni eich dymuniadau. Sut ydych chi'n mynd i wneud argraff?
Y gamp yw dangos i'r cyflogwr bod gennych ddealltwriaeth glir o'r hyn maen nhw'n chwilio amdano.
Rheol sylfaenol yw sganio'r fanyleb am dri neu bedwar sgil y mae'r cyflogwr yn gofyn amdanynt gan yr ymgeisydd perffaith. Yna ystyriwch rai o'r profiadau rydych chi wedi'u cael drwy'r brifysgol a sut maen nhw'n cyfateb i'r sgiliau hyn. Nid oes rhaid iddo fod trwy brofiad gwaith neu leoliadau o reidrwydd, gallai fod yn brosiectau gr?p neu hyd yn oed cymdeithasau a chlybiau yn ystod eich astudiaethau.
Diweddaru eich CV
Ni ddylai CV fod yn fwy na dwy dudalen A4 — neu mae cyflogwr yn debygol o ddiflasu.
Dylai eich CV ddechrau gyda datganiad personol byr yn crynhoi eich profiad a'ch doniau unigryw.
Nesaf, amlinellwch eich hanes gwaith mewn pwyntiau bwled gan ddefnyddio'r dull STAR (Sefyllfa, Tasg, Canlyniad, Gweithgaredd) i ddangos eich addasrwydd ar gyfer y r?l, ac yna adran yn amlinellu eich addysg a'ch sgiliau allweddol.
Dod o hyd i brofiad gwaith
Angen profiad i gael swydd, ond ni allwch gael profiad oherwydd nad oes swydd gennych? Mae'n Catch 22 i raddau helaeth iawn.
I dorri’r gylchred hon, cadwch lygad am unrhyw leoliad gwaith neu gyfleoedd gwirfoddoli er mwyn i chi allu ennill y sgiliau hanfodol sydd eu hangen yn y gweithle - megis y gallu i weithio dan bwysau, defnyddio mentergarwch i oresgyn heriau, a sgiliau trefnu gwych - mae cyflogwyr bob amser yn chwilio am y sgiliau hyn.
Ymunwch ag asiantaeth recriwtio
Mae asiantaeth recriwtio yn gweithio ar eich rhan i'ch helpu i ddod o hyd i'r swyddi i raddedigion mwyaf addas yn eich diwydiant o ddewis. Felly, mae ymuno ag Inspiring Interns ychydig fisoedd cyn graddio yn rhoi amser i chi ddod yn gyfarwydd a'r cyflogwyr gorau a dod o hyd i'r swydd neu interniaeth i raddedigion sydd mwyaf addas i chi. Cofrestrwch heddiw!