Medi 2024
Digital Health and Care Wales
Making digital a force for good in health and care
Eich diweddariad misol gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Y NEWYDDION DIWEDDARAF
?IGDC WEDI CYRRAEDD Y RHESTR FER AR GYFER DWY WOBR YNG NGWOBRAU DIWYDIANT TG Y DU
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod IGDC wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU 2024.
Mae'r wobr gyntaf yng nghategori Rhagoriaeth Sefydliadol, sef 'Y Lle Gorau i Weithio ym maes TG', ac mae’r ail wobr yng nghategori 'T?m y Flwyddyn', mae rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynu Electronig Gofal Sylfaenol, sy'n rhan o Foddion Digidol, wedi cyrraedd y rhestr fer.
Mae gwobr ‘Y Lle Gorau i Weithio ym maes TG’ yn cael ei ddyfarnu i’r sefydliad sy’n darparu’r cyfleoedd cyflogaeth a gyrfa gorau i weithwyr TG proffesiynol yn ogystal a dangos ymrwymiad cadarnhaol i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Yr enillydd fydd sefydliad y mae ei weithwyr yn ei ystyried yn lle gwych i weithio.
Dyfernir 'Gwobr T?m y Flwyddyn' i'r rhai sy'n dangos sut mae datblygu neu weithredu ei strategaeth TG wedi helpu i gyflawni amcanion, cyflawni mwy o gystadleurwydd, neu wella gwasanaethau cyhoeddus.
Y GWASANAETH PRESGRIPSIYNAU ELECTRONIG YN MYND YN FYW YM MHOWYS
Mae cleifion mewn cymuned ym Mhowys yn elwa o ragnodi haws a mwy diogel, diolch i wasanaeth sy’n anfon presgripsiynau’n electronig o’u practis meddyg teulu i fferyllfa neu ddosbarthwr o’u dewis.
Mae’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) bellach yn cael ei ddefnyddio ym Mhractis Meddygol Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd, sy’n gweithio mewn partneriaeth a fferyllfeydd Boots yn Llandrindod a Llanfair-ym-Muallt, a HOW Pharm Ltd (Fferyllfa Llanwrtyd) yn Llanwrtyd. Mae EPS yn golygu nad oes angen i gleifion na staff fferyllol godi presgripsiynau o’r feddygfa. Mae hefyd yn lleihau faint o bapur a ddefnyddir gan GIG Cymru, gan nad oes rhaid i feddygon teulu a rhagnodwyr eraill argraffu a llofnodi ffurflen bapur mwyach.
Practis Meddygol Llanfair-ym-Muallt a Llanwrtyd yw’r cyntaf ym Mhowys i ddefnyddio EPS, a bydd meddygfeydd eraill yn dilyn yn y dyfodol agos. Lansiwyd EPS yng Nghymru’r llynedd ac mae’n cael ei gyflwyno mor gyflym a diogel a phosibl.
CYDWEITHREDIAD YN SICRHAU CYNHWYSIANT DIGIDOL YN SIR DDINBYCH
Mae pobl yn Sir Ddinbych yn ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio offer digidol fel Ap GIG Cymru.
Mae’r rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP) yn IGDC sy’n datblygu’r ap wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chymunedau Digidol Cymru a Hyder Digidol Sir Ddinbych i helpu pobl yn yr ardal i ddechrau defnyddio nodweddion yr ap. Mae Ap GIG Cymru a’r wefan gysylltiedig yn cynnig mynediad hawdd at ystod o wasanaethau iechyd a gofal.
领英推荐
?DIWEDDARIADAU PELLACH
GWEITHDY BLAENORIAETHU AP GIG CYMRU
Ar 17 Medi 2024, cynhaliodd t?m Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP) weithdy blaenoriaethu Ap GIG Cymru llwyddiannus a ddaeth a gr?p amrywiol o tua 60 o randdeiliaid at ei gilydd yn bersonol ac yn rhithwir. Nod y gweithdy oedd arwain datblygiad nodweddion a gwasanaethau allweddol Ap GIG Cymru yn y dyfodol, gan sicrhau bod anghenion a blaenoriaethau cleifion a’r cyhoedd ym maes iechyd a gofal yn ffocws blaenllaw o ran arloesi digidol.
Mynychodd gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, arweinwyr polisi, cynrychiolwyr cleifion a rheolwyr digidol y digwyddiad yn yr ystafell ac ar-lein, ac arweiniodd eu harbenigedd cyfunol at drafodaethau gwerthfawr ar ystod eang o nodweddion posibl. Roedd y nodweddion hyn wedi’u coladu gan arbenigwyr pwnc a’u sgorio gan gleifion a’r cyhoedd cyn y sesiwn. Ymysg y themau allweddol a drafodwyd oedd cynyddu mynediad at gofnodion iechyd a gofal a gwybodaeth a gasglwyd gan gleifion, gwella gwasanaethau cyfathrebu, datblygu adnoddau penodol i gyflyrau, ac ehangu swyddogaethau moddion digidol.
Neilltuwyd cyfran sylweddol o’r gweithdy i’r broses flaenoriaethu ei hun, lle bu cyfranogwyr yn gweithio gyda’i gilydd i sgorio’r nodweddion ar gyfer datblygiad yn y dyfodol, gan arwain at blotio effaith ac ymdrech ar fatrics blaenoriaethu. Roedd hyn yn dangos yr ymrwymiad ar y cyd i wella gwasanaethau iechyd a gofal digidol i gleifion a’r cyhoedd yng Nghymru. Roedd yr adborth o werthusiad y gweithdy yn mynegi cefnogaeth gref i sesiynau yn y dyfodol.
Dywedodd Mike Emery, Prif Swyddog Digidol Llywodraeth Cymru, am lwyddiant y digwyddiad: “Roedd y sesiwn yn sesiwn hanfodol er mwyn rhoi’r cyfle i randdeiliaid ddylanwadu ar a llunio’r blaenoriaethau ar gyfer Ap GIG Cymru, a nodi’r datblygiadau hynny a allai wneud gwahaniaeth go iawn i bobl Cymru a chynaliadwyedd y GIG.
“Mae llawer mwy i’w wneud a bydd angen i ni grynhoi popeth i greu targedau allweddol gweladwy, ond roedd hon yn sesiwn hanfodol a llwyddiannus yn nhaith barhaus Ap GIG Cymru.”
Cadwch lygad am fwy o wybodaeth a manylion am y camau nesaf ar gyfer DSPP ac Ap GIG Cymru trwy gofrestru i fynychu gweminar e-ddiweddariad nesaf y rhaglen ar 22 Tachwedd am 11am trwy’r ddolen Teams hon.
TWF YN Y NIFER O HYSBYSIADAU ‘PRESGRIPSIWN YN BAROD’ AP GIG CYMRU
Mae nifer yr hysbysiadau ‘presgripsiwn yn barod’ a anfonwyd i Ap GIG Cymru wedi cynyddu i 1,924 ers i’r nodwedd fynd yn fyw mewn dwy ardal yng ngogledd Cymru ar 29 Mai 2024.
Diolch i’r nodwedd newydd, gall cleifion sy’n defnyddio Fferyllfa Wellington Road yn y Rhyl, Sir Ddinbych, a Fferyllfa Gwynan Edwards ym Mhenmaenmawr, Conwy, ac sydd wedi cofrestru a’r Ap dderbyn negeseuon diogel pan fydd eu meddyginiaethau’n barod.
Titan gan Invatech yw’r system fferylliaeth gymunedol gyntaf i ddechrau cyflwyno’r hysbysiad ‘presgripsiwn yn barod’ yng Nghymru, a disgwylir i fferyllfeydd Invatech Titan eraill ddechrau defnyddio’r hysbysiadau yn yr hydref.
COFNOD MEDDYGINIAETHAU A RENNIR: MWY NA THECHNOLEG YN UNIG
Bob dydd, mae miloedd o bobl yng Nghymru yn llywio’u ffordd drwy system iechyd gymhleth, ond gall Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR) chwyldroi sut rydym yn darparu gofal iechyd yng Nghymru.
Wrth i’r SMR cyntaf erioed yng Nghymru nesáu at fod yn realiti, mae James Goddard, Arweinydd e-Rhagnodi mewn Ysbytai IGDC, wedi rhannu ei farn mewn blog newydd am y manteision amrywiol a ddaw yn sgil hyn i gleifion a staff gofal iechyd.
SUT HELPODD SYSTEMAU IGDC FI DRWY ARHOSIAD ANNISGWYL YN YR YSBYTY
Gan Gillian Davies-Evans, Rheolwr Diogelwch Cleifion.
Roeddwn i eisiau rhannu’r stori hon gan fy mod i wedi gweithio yn y GIG ers dros 25 mlynedd, ac yn IGDC ers nine mlynedd, ac rwy’n gweld yr holl waith caled y mae pobl yn ei wneud i greu a chynnal y systemau digidol yn ein hysbytai.
Rydw i nawr wedi gweld y systemau hynny’n gweithio’n dda mewn ysbyty ac yn fy nghynnal a’m cefnogi drwy driniaeth annisgwyl.
--
1 个月avliable in intionship