Mabwysiadu dull system gyfan o sicrhau pwysau iach yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

Mabwysiadu dull system gyfan o sicrhau pwysau iach yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg

Mae Rebecca Stewart, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd

Gan fod nifer y bobl sy’n byw gyda gorbwysau a gordewdra wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac i gydnabod cymhlethdod y mater, mae'r angen i edrych y tu hwnt i atebion unigol a mynd i’r afael a phroblemau systemig ar y cyd drwy ddull system gyfan yn bwysicach nag erioed.

Mae'r hyn sydd o'n cwmpas yn ein mowldio ni; mae’r cyfleoedd a’r opsiynau sy’n galluogi pawb i gael bwyd hygyrch a fforddiadwy a bywydau egn?ol yn cael eu dylanwadu gan yr amgylchedd yr ydym yn byw ynddo, a’r lleoliadau yr ydym yn gweithio ac yn chwarae ynddynt.? Mae gan bawb ran i’w chwarae mewn creu'r amodau cywir ar gyfer newid.

Drwy ddull system gyfan, mae ystod eang o safbwyntiau yn dod ynghyd, gan feithrin cyd-ddealltwriaeth o realiti'r her, sut y mae'r system yn gweithio a ble mae cyfleoedd ar gyfer newid.? Mae’r dull yn un parhaus, deinamig a hyblyg gydag elfennau tebyg i greu lleoedd o ran ffordd o weithio.


Cynllun Symud Mwy, Bwyta'n Iach

Wedi'i lansio yn 2020, ac yn cyd-fynd a blaenoriaethau strategol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Bro Morgannwg a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, mae'r Cynllun Symud Mwy, Bwyta'n Iach (2020-2023) yn amlinellu ein blaenoriaethau cyffredin ar gyfer gwella pwysau iach. Mae ein dull cydweithredol wedi sicrhau cyfatebiaeth ar draws y system, drwy gynlluniau a rhaglenni gwaith fel: Cynlluniau Llesiant y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Bwyd y Fro, Bwyd Caerdydd, Symud Mwy - Strategaeth Gweithgarwch Corfforol a Chwaraeon Caerdydd, a’r Siarter Teithio Llesol yn helpu i ysgogi newid a chynyddu cyrhaeddiad.

Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2024, gan adeiladu ar ein cynnydd a’r hyn a ddysgwyd hyd yma, cynhaliwyd cyfres o weithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein i lunio ein Fframwaith lleol diwygiedig ar gyfer Symud Mwy, Bwyta’n Iach (2024-2030). Daethpwyd ag ystod eang o syniadau, safbwyntiau a lleisiau ynghyd o bob rhan o’r system, gan rannu:

  • Dyheadau am yr hyn y dylai symud a bwyta'n iach ei olygu i'n cymunedau a sut olwg ddylai fod arno yn ein hamgylchedd.
  • Y newidynnau sy'n gallu effeithio ar fod yn egn?ol a bwyta'n iach.
  • Dyheadau ar gyfer ein ffyrdd o weithio.
  • Y galluogwyr a'r heriau i symud newid yn ei flaen.

?Fel rhan o’r gweithdai, bu creu cyfres o fapiau system yn fodd o'n helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth o realiti’r her ar y cyd.? Er mwyn gwneud hyn fe wnaethom:?

Ddiffinio'r newidynnau

Nodi ffactorau sy'n effeithio ar ba mor egn?ol yr ydym a'r bwyd rydym yn ei fwyta.

?Creu'r cysylltiadau

Ystyried sut y mae'r ffactorau'n gysylltiedig a'i gilydd a sut y gall newid i un ohonynt effeithio ar un arall.

?Integreiddio'r cylchoedd cysylltiadau

Coladu'r holl gysylltiadau er mwyn deall y rhannau o'r system lle mae angen i ni symud newid.

Creu ein mapiau system

Mireinio a gwirio cysylltiadau rhwng rhannau o'r system er mwyn sicrhau eu? bod yn gwneud synnwyr, gan greu diagram dolen achosol sy'n ein helpu i ddeall y stori y tu ?l i'r system a lle y gall cyfleoedd i ymyrryd a symud newid ddigwydd.

Bydd ein fframwaith diwygiedig, sy'n adlewyrchu themau strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Pwysau Iach: Cymru Iach, yn darparu'r cyfeiriad strategol tan 2030.? Bydd yn amlinellu sut y byddwn, drwy barhau i ddefnyddio dull rhanbarthol, yn cydweithio i greu newid ar draws y rhannau o’r system sydd wedi dod i’r amlwg fel blaenoriaethau.? Mae ein gwaith yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn cyfrannu at y dull gweithredu cenedlaethol, ac yn meithrin dysgu ar y cyd a rhanbarthau eraill ledled Cymru.

?

要查看或添加评论,请登录

Design Commission for Wales的更多文章

社区洞察

其他会员也浏览了