M-SParc yn UKSPA
Mae’r Bwlch Sgiliau – y bwlch rhwng y gyrfaoedd arloesol sydd gennym a’r nifer o bobl sy’n gallu gwneud cais amdanynt – yn rhywbeth ‘da ni yng Ngogledd Cymru yn gyfarwydd hefo. Cefais fy nhaflu ychydig, felly, pan roddodd llai na 10% o'r ystafell eu dwylo i fyny pan ofynnais pwy oedd yn cael trafferth recriwtio! Efallai bod hyn i’w ddisgwyl o ystyried fy nghynulleidfa – yng nghynhadledd UKSPA - The United Kingdom Science Park Association , Caergrawnt, yn y ‘golden triangle’.
Fodd bynnag, ‘di hynny’m yn golygu eu bod i gyd wedi mynd i’r afael a cael pobl leol, fedrus i ymgysylltu a gyrfaoedd yn eu Parciau Gwyddoniaeth. Roeddwn i’n ffodus i fod mewn sesiwn ochr yn ochr a dwy siaradwr gwych (dan gadeiryddiaeth yr enwog Dr Sally Basker !) ac mae’n debyg bod yna waith gwych yn cael ei wneud, ac uchelgais i wneud mwy, i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.
Trafododd Dr Camilla d'Angelo , Rheolwr Polisi yr Ymgyrch dros Wyddoniaeth a Pheirianneg, yr angen i ddatblygu sgiliau i gefnogi ymchwil a datblygu. Mae eu gwaith yn ddwys o ran ymchwil, ac yn canolbwyntio ar ysbrydoli pobl ifanc i feddwl am yrfaoedd mewn ymchwil a datblygu. Mae angen llwybrau addysg a sgiliau amrywiol, yn ogystal a mwy o gymorth i gyflogwyr. Yn bwysicach, mae angen i bobl ifanc fod yn ymwybodol o yrfaoedd a llwybrau i yrfaoedd.
领英推荐
Dilynais trwy rannu ein rhaglen Skill-SParc gyffrous, sy'n cynnwys gwaith STEM mewn ysgolion, a'n Hacademi Sgiliau. Roeddwn i’n ofnus ar y dechrau i fod mewn ystafell yn llawn o’r ‘chwaraewyr mawr’, ond doedd dim angen i mi fod. Roedd yn amlwg bod y gwaith rydym yn ei wneud wedi’i groesawu, ac yn rhywbeth y mae Parciau Gwyddoniaeth eraill ledled y DU yn gweithio arno.
Mae Parc Milton a Silverstone Park yn enwau cyfarwydd i lawer ohonom, ond esboniodd Anna Fletcher , Uwch Reolwr Marchnata, nad yw plant ysgol yn ymwybodol o’r gyrfaoedd a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt yno. Mae rhaglen Milton Keynes yn canolbwyntio ar wirfoddolwyr diwydiant a phrofiad gwaith ysbrydoledig i ysgolion uwchradd yn yr ardal leol.
Y neges allweddol gan bawb oedd bod angen i blant ysgol o Gaergrawnt i Gaernarfon wybod pa yrfaoedd sydd ar garreg eu drws, ac fel y dywedodd Roz Bird ar y diwedd; mae gennym ni fel Parciau Gwyddoniaeth ddyletswydd i gefnogi hyn. Beth yw eich barn chi?
Diolch arbennig i Adrian Sell am y gwahoddiad, ac i'r gynulleidfa am eu dwylo piano ardderchog!