Gwobrau Chwilotwr Chwilfrydig – Gwobrau Cychwyn Busnes 2022

Gwobrau Chwilotwr Chwilfrydig – Gwobrau Cychwyn Busnes 2022

Ddydd Llun, 12 Rhagfyr, gwahoddwyd yr wyth a gyrhaeddodd y rownd derfynol i gyflwyno eu syniadau busnes i feirniaid allanol. Santander UK oedd noddwr y gwobrau, ac roedd Nicholas Davies o Santander yn rhan o’r panel beirniadu, ochr yn ochr a Jason McLoughlin o Syniadau Mawr Cymru ac Akmal Hanuk o Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae Gwobrau Chwilotwr Chwilfrydig yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr a graddedigion gyflwyno eu syniadau busnes cynnar i banel o feirniaid profiadol, gyda’r gobaith o ennill £2,000 i’w helpu i wireddu eu syniad. Mae pob un ohonynt wedi ymwneud a’r Pecyn Cymorth Menter a Dechrau Busnes drwy eu cyfrifon Dyfodol Myfyrwyr, lle mae adnoddau gwerthfawr ar gael i’w helpu i ddechrau eu busnes eu hunain, ynghyd a chymorth busnes un-i-un gan ein cynghorwyr busnes mewnol.

Roedd yr wyth a gyrhaeddodd y rownd derfynol fel a ganlyn:

·???????Yaqoob Ahmad – Ifund

·???????Sanskriti Mishra – The Tailor Tails

·???????Haris Hussnain – Mynediad

·???????Sokratis Mourselas – Software for Everyone

·???????Dylan Perkins – Rasen

·???????Azamat Chinaliev – LVL

·???????Henry Mittow – Lavandra

·???????Anushka Rasheed a Clive Tsungu – Linkkd

Y busnes buddugol oedd Linkkd.?Myfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn o astudio’r Gyfraith a Gwleidyddiaeth yw Anushka. Hi a’i phartner busnes, Clive, oedd enillwyr y £2,000. Mae a wnelo Linkkd a thrawsnewid perchnogaeth ffasiwn a chysylltiadau a chwsmeriaid.?“Drwy ddefnyddio p?er tocynnau anghyfnewidadwy yn y gadwyn floc, rydym yn helpu brandiau i docyneiddio eu hoff asedau a chreu gefeilliaid digidol un-o’u-math. Yn syml, sganiwch y tag NFC ymgorfforedig i hawlio eich gefell digidol unigryw ac ymuno a dyfodol perchnogaeth. Hefyd, gan eich bod yn gwsmer gwerthfawr, mwynhewch gynigion a gwobrau wedi’u tra-phersonoli.”

Enillodd Dylan (yn ei ail flwyddyn o astudio Daearyddiaeth) £1,000 am ei syniad busnes, Rasen, a ddaeth yn ail.??Nod Rasen yw bod yn gwmni offer llaw arloesol sy'n ail-gynllunio ac yn ail-ddychmygu sut mae offer llaw yn cael eu saern?o a'u defnyddio, a fydd yn rhoi profiad llawer gwell i'r defnyddiwr terfynol.?

Wrth drafod y gwobrau a’u profiadau o ddechrau busnes gyda nhw, dyma’r hyn a oedd ganddynt i’w ddweud.

Beth oedd eich rheswm/rhesymau dros ddechrau eich busnes?

Anushka Rasheed?

Y rheswm oedd gwireddu holl botensial tocynnau anghyfnewidadwy a dangos sut y gallant fod o fudd i strategaeth busnes perchnogion busnesau bach, yn enwedig yn y diwydiant ffasiwn. Roeddem am nodi ffordd o’u helpu i oresgyn problem nwyddau ffug a gwella’r cyswllt rhwng defnyddwyr a busnesau.

Dylan Perkins

Peth rhwystredig i mi oedd defnyddio offer llaw. Felly, roedd eisiau datrys rhai o’r problemau sy’n codi’n teimlo’n gam naturiol ymlaen yn y brifysgol. Rwy’n credu nad fi yw’r unig un sy’n cael y problemau hynny, ac rwy’n credu hefyd fod cyfle ar gael i’w datrys.

Sut beth yw dechrau busnes ochr yn ochr ag astudio??

Anushka Rasheed

Gan ein bod ar gam cychwynnol o hyd, rydym yn ymdopi’n iawn.?

Dylan Perkins

Nid wyf wedi cael llawer o brofiad o gydbwyso’r ddau beth eto. Er hynny, byddwn yn dweud fy mod yn edrych ar y ddau beth yn rhan o’m datblygiad proffesiynol. Rwy’n deall bod llawer o fusnesau newydd yn methu yn y pen draw. Felly, beth bynnag a ddigwyddo o ran fy musnes, rwy’n gobeithio y gallaf o leiaf ddysgu sgiliau gwahanol a fydd o fudd i mi mewn swydd broffesiynol yn y dyfodol. Felly, nid oes angen dewis rhwng astudio a dechrau busnes, yn fy marn i, gan fod modd gwneud y ddau beth ar yr un pryd.

Sut mae’r pum mlynedd nesaf yn edrych ar gyfer eich busnes?

Anushka Rasheed

Y nod yw y bydd gennym fusnes cwbl weithredol yn y DU yn ystod y pum mlynedd nesaf ac y byddwn yn ystyried ehangu i’r UE.

Dylan Perkins

Y dasg gyntaf yn y map ffordd presennol yw ffurfioli dyluniad y prototeip ffisegol cyntaf a mynd ati i’w greu. Bydd hyn yn allweddol i sicrhau adborth go iawn. Y gobaith wedyn yw lansio ymgyrch cyllido torfol er mwyn cyllido’r gwaith o gynhyrchu’r unedau cyntaf. Byddai cynhyrchion newydd yn dilyn yn y blynyddoedd nesaf, a fydd yn cael eu gwerthu ar-lein ac mewn siopau traddodiadol.

Ym mha ffordd y gwnaeth y T?m Menter eich helpu yn y broses?

Anushka Rasheed

Cawsom adnoddau a chanllawiau gan y t?m i’n helpu i greu cynllun busnes strwythuredig ar sail ein syniad.

Dylan Perkins

Mae'r t?m wedi bod o gymorth mawr o ran fy helpu i a’r busnes i gyrraedd y cam cynnar hwn. Cefais fy ‘nghyfarfod mentor busnes’ cyntaf yn ?l ym mis Mawrth 2022. Bryd hynny, nid oedd gennyf unrhyw syniadau pendant o ran sut y byddai’r busnes yn edrych. Ar ?l y cyfarfod hwnnw, roedd gennyf restr o bethau i’w gwneud er mwyn fy helpu i roi trefn ar fy meddyliau a chreu cynllun mwy cydlynol. Cefais ail gyfarfod ychydig cyn y digwyddiad cyflwyno syniadau, lle cefais gyngor amhrisiadwy, yn rhannol ar sut y gall dechrau busnes edrych.

Sut brofiad oedd y Gwobrau Cychwyn Busnes, a sut beth yw dod yn gyntaf/yn ail ac ennill £2,000/£1,000?

Anushka Rasheed

Roedd y Gwobrau Cychwyn Busnes yn ddiddorol iawn ac wedi rhoi’r cyfle i ni rwydweithio a phobl o’r un meddylfryd. Roedd ennill £2,000 yn ffordd wych o roi cychwyn da i’r busnes.

Dylan Perkins

Roedd y Gwobrau Cychwyn Busnes yn gyfle gwych i gyflwyno syniad busnes i bobl eraill a chael adborth gwerthfawr iawn. Er nad oeddwn yn si?r a ddylwn gyflwyno fy syniad busnes, rwy’n falch fy mod wedi gwneud hynny. Roedd pawb – y beirniaid, y trefnwyr a’r ymgeiswyr eraill – yn gefnogol iawn, ac roedd yr awyrgylch yn wych. Roedd dod yn ail yn hollol annisgwyl. Roeddwn yn nerfus iawn wrth roi fy nghyflwyniad a gwir yn credu na fyddai unrhyw beth yn dod ohono, yn enwedig o ystyried safon y cyflwyniadau eraill.

Pa gyngor dechrau busnes y byddech yn ei roi i fyfyrwyr eraill?

Anushka Rasheed

Dymuniad yn unig yw syniad nad ydych yn gweithredu arno! Gweithredu a pheidio ag aros am eraill yw'r ffordd orau o gyflawni'r hyn rydych ei eisiau.?

Dylan Perkins

Os oes gennych syniad sy’n seiliedig ar angerdd gwirioneddol, ewch amdani. Cysylltwch a’r T?m Menter, a all eich arwain a rhoi cyngor a chymorth gwych i chi. Os na fyddwch yn rhoi cynnig arni, ni fyddwch byth yn gwybod beth allai fod wedi digwydd.

Roedd y diwrnod cyfan yn llwyddiant mawr. Treuliodd y myfyrwyr y prynhawn yn rhwydweithio ac yn sicrhau adborth uniongyrchol gan y panel beirniadu.?

Os oes gennych ddiddordeb mewn dechrau busnes, ewch i'ch cyfrif Dyfodol Myfyrwyr, a chofrestrwch ar gyfer y Pecyn Cymorth Menter a Dechrau Busnes. Mae Gwobrau Chwilotwr Chwilfrydig yn rhan o gyfres o seremon?au gwobrwyo sy’n digwydd dros y flwyddyn academaidd gyfan, ac mae rhagor o gyfleoedd yn cael eu rhoi i ennill arian ar gyfer eich syniad busnes yn nhymor y gwanwyn. Bydd Gwobrau Entrepreneur Eiddgar yn digwydd yn ystod y gwanwyn, ochr yn ochr a Gwobrau Peirianwyr Ysbrydoledig a Gwobrau Social Enterprise, er mwyn i chi allu cyflwyno eich syniadau erbyn diwedd y flwyddyn academaidd.?

要查看或添加评论,请登录

CU Student Futures / Dyfodol Myfyrwyr CU的更多文章

社区洞察

其他会员也浏览了