Gweinidog yr Economi yn nodi'r prif flaenoriaethau ar gyfer economi gryfach yng Nghymru ‘lle mae rhan gan bob un ohonom i chwarae’
Llywodraeth Cymru Economi | Welsh Government Economy
Uchelgais ar gyfer cryfderau Cymru, twf gwyrdd ynghyd a sgiliau a swyddi lleol yw prif flaenoriaethau Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, a fydd heddiw (dydd Mawrth 28 Tachwedd) yn nodi ei gynlluniau i gyflawni Cenhadaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi gryfach.
Wrth ymateb i heriau'r digwyddiadau byd-eang, chwyddiant, cyfraddau llog a chostau ynni, bydd Llywodraeth Cymru / Welsh Government yn nodi pedair blaenoriaeth a fydd yn llywio sut y gall Cymru ymateb i ansicrwydd a manteisio ar gyfleoedd newydd.
Wrth siarad yng Nghynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru, bydd y Gweinidog yn dadlau bod diferu i lawr economaidd yn fethiant llwyr ac yn nodi'r achos dros rhoi Cymru ochr yn ochr a'r econom?au sy’n troi polisi diwydiannol gweithredol yn sgiliau newydd ar gyfer ffyniant hirdymor.???
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
Wrth i'r economi fyd-eang newid a'r ras am sero net gyflymu, mae ein blaenoriaethau yn ymwneud a throi'r cyfleoedd hynny yn dwf busnes a gwaith sefydlog, sy'n talu'n dda.
Cyn yr uwchgynhadledd economaidd yng Nglyn Ebwy yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd y Gweinidog hefyd yn galw ar fusnesau i ymrwymo i rymuso menywod a gostwng rhwystrau yn y gweithle, yn enwedig yn y sectorau hynny lle nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol.
Dywedodd:
Rwyf am i fwy o bobl ifanc deimlo'n hyderus am gynllunio dyfodol uchelgeisiol yng Nghymru ac i fwy o ferched a menywod ifanc weld bod ganddynt le i arwain diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.
Mae'r fenter gymdeithasol ELITE Clothing Solutions , sydd wedi'i lleoli yng Nglynebwy, yn rhoi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar waith drwy roi cyfleoedd i lawer o bobl sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith.
Mae'r busnes, sy'n arwain consortiwm gan gynnwys Brodwaith Cyf yn Llangefni, Treorchy Sewing Enterprise yn y Rhondda a Fashion-Enter Ltd/ FashionCapital yn y Drenewydd wedi derbyn y contract yn ddiweddar i wneud gwisgoedd Transport for Wales Trafnidiaeth Cymru, ?trwy ddefnyddio'r broses gaffael a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn bosibl.
Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Andrea Wayman :
Mae ennill y contract i wneud gwisgoedd Trafnidiaeth Cymru yn gyflawniad gwych. Drwy ddull consortiwm bydd y gwisgoedd hyn yn cael eu gwneud yn gyfan gwbl yng Nghymru, o'r dylunio a'r gweithgynhyrchu i'r brandio.
Darllenwch y blaenoriaethau llawn yma: https://www.llyw.cymru/blaenoriaethau-ar-gyfer-economi-gryfach