Dydd G?yl Dewi Hapus!
'Gwnewch y pethau bychain'
Yr ymadrodd 'Gwnewch y pethau bychain mewn bywyd' oedd rhai o eiriau olaf Dewi Sant, nawddsant Cymru.
Dethlir Dydd G?yl Dewi yng Nghymru a ledled y byd ar 1 Mawrth. Gwneir hyn drwy gynnal gorymdeithiau, canu, perfformio dawnsiau traddodiadol a gwisgo dillad ac arwyddluniau Cymreig traddodiadol fel y genhinen Bedr a chenhinen. Mae’n gyfle gwych i anrhydeddu diwylliant, traddodiadau a threftadaeth Cymru ac un o ieithoedd hynaf y byd.
Gallwn 'wneud y pethau bychain mewn bywyd' i helpu i hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg a chadw bywiogrwydd Cymru yn fyw. Mae’r Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd wedi datblygu adnodd Ni Yw’r Newid - Treftadaeth Iach i helpu ein staff i wneud Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn realiti cadarnhaol, ac yn yr achos hwn gefnogi ein Diwylliant a’r Gymraeg yn y Gweithle.
Meddai Ann Jones, Prif Ymarferydd Datblygu Cynaliadwy ac Iechyd:
“Rwy’n falch o fod yn Gymraes. Cenedl fach ydym, ond un sydd a chalon fawr. Rwy’n siarad Cymraeg bob dydd ac mae’n rhoi hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn gref i mi. Mae fy mhlant yn tyfu i fyny yn gallu siarad Cymraeg a Saesneg. Mae hyn o fudd i'w galluoedd gwybyddol ac yn ffactor amddiffynnol o ran eu llesiant meddyliol hefyd. Gall pob un ohonom gyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.”
Mae ‘Treftadaeth Iach’ yn tynnu sylw at rai o’r ffyrdd ymarferol y gallwn gyfrannu at nodau Llesiant Cymru trwy gefnogi ein diwylliant a’r Gymraeg yn y gweithle.
1.??????Cefnogi digwyddiadau diwylliannol a manteisio ar fannau diwylliannol awyr agored Cymru, gan gynnwys ein parciau a'n llwybrau.
2.??????Sicrhau bod gennych gerdyn llyfrgell rhad ac am ddim i gael mynediad at adnoddau gwaith (ac amser hamdden).
3.??????Os ydych yn siaradwr neu'n ddysgwr Cymraeg, gwisgwch linyn "Cymraeg" neu "Dysgwr" ac ychwanegwch y logo "Iaith Gwaith" neu "Dwi'n Dysgu Cymraeg" at eich llofnod e-bost er mwyn annog pobl eraill i gysylltu a chi yn Gymraeg.
4.??????Darparu cymorth ff?n dwyieithog megis “Bore da, good morning” a “Prynhawn da, good afternoon”.
5.??????Defnyddiwch ap iaith rhad ac am ddim, megis Duo Lingo neu Say Something in Welsh, i'ch helpu i ddysgu a deall ymadroddion syml sy'n cael eu defnyddio yn y swyddfa.
?Fel bob amser, hoffem glywed straeon am yr hyn yr ydych chi neu'ch t?m wedi'i wneud i weithio tuag at gyrraedd nodau Llesiant Cymru. Anfonwch e-bost at yr Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd: [email protected]
领英推荐
‘Do the little things in life’
The phrase ‘Gwnewch y pethau bychain mewn bywyd – ‘Do the little things in life’ were some of Saint David, the patron saint of Wales’ last words.
St. David’s Day is celebrated in Wales and around the world on 1 March with parades, singing, performing traditional dances and wearing traditional Welsh clothing and emblems such as the daffodil and a leek. It is a great opportunity to honour the culture, traditions and heritage of Wales and one of the oldest languages in the world.
We can ‘do the little things in life’ to help promote and protect the Welsh language and keep the vibrancy of Wales alive. The Health and Sustainability Hub have developed Be the Change Healthy Heritage resource to help our staff make the Well-being of Future Generations Act a positive reality, and in this case supporting our Culture and Welsh Language in the Workplace.
Ann Jones, Principal in Sustainable Development and Health, says:
“I am proud to be Welsh. We are a small nation but with a big heart. I speak Welsh everyday and it gives me a strong identity and sense of belonging. My children are growing up being able to speak Welsh and English which is not only beneficial for their cognitive abilities but is also a protective factor for their mental wellbeing. We can all contribute to the Well-being of Future Generations Act Goals of a Wales of Vibrant Culture and thriving Welsh language.”
‘A Healthy Heritage’ highlights some of the practical ways in which we can contribute to Wales’ well-being goals by supporting our culture and Welsh language in the workplace:
1.??????Support cultural events and take advantage of Wales’ outdoor cultural spaces,
including our parks and trails.
2.??????Make sure that you have a free library card for accessing work (and leisure-time) resources.
3.??????If you are a Welsh speaker or learner, wear a "Cymraeg" or "Dysgwr" lanyard and add the "Iaith Gwaith" or "Dwi'n Dysgu Cymraeg" logo to your email signature to encourage others to connect with you in Welsh.
4.??????Provide bilingual phone assistance such as “Bore da, Good morning” and "prynhawn da, good afternoon."
5.??????Use a free language app, such as Duo Lingo or Say Something in Welsh, to help you learn and understand simple phrases being used in the office.
As always, we would like to hear your stories about your individual or teams actions towards the Wales’ Well-being goals. Email the Health and Sustainability Hub: [email protected].