DHCW collaborate with universities to give future nurses insight into digital healthcare system
Digital Health and Care Wales
Making digital a force for good in health and care
Student nurses at universities across Wales are being given the opportunity to gain hands-on experience of an NHS Wales digital nursing system before they go on their first work placements.
The Welsh Nursing Care Record (WNCR) sessions are helping to equip university students with the knowledge and confidence to use the WNCR in a controlled test environment before going into real-life clinical situations.
Interactive sessions are being delivered at Swansea University, Cardiff University, University of South Wales and University of Wales Trinity Saint David, with further sessions to be delivered to more universities across Wales.
WNCR is a digital system designed and built by Digital Health and Care Wales (DHCW), in collaboration with all seven health boards across Wales and Velindre University NHS Trust. It enables nurses to complete assessments at a patient’s bedside on a mobile tablet, or other handheld device, saving time, improving accuracy and minimising duplication.
WNCR has captured more than 14.8 million inpatient nursing notes across Wales. It is now used in 312 wards across 51 hospital sites, and that number is growing as the rollout continues.
During the sessions, Beverley Havard, DHCW’s Clinical Informaticist Lead for the WNCR, is guiding student nurses through the system’s features and functionalities, supported by DHCW’s Business Change team.
Beverley previously worked as a registered nurse at Swansea Bay University Health Board for 24 years. Having previously supported student nurses in the clinical environment, Beverley said she wanted to ensure the student nurses gained a basic understanding of the Welsh Nursing Care Record before going on placement.
She added: “The WNCR is available at all health boards in Wales and is an important part of the daily workflow of nursing staff. By introducing student nurses to the system early on in their training, they are better prepared for all aspects of the role.
“It’s been great to work with the students during these interactive sessions, and the feedback has been really positive.
“We are also working with IT teams to give all students their own NHS Wales login so they can access systems more quickly and efficiently on placements and as they start their nursing careers.”
领英推荐
IGDC yn cydweithio a phrifysgolion i roi cipolwg ar y system gofal iechyd digidol i nyrsys y dyfodol
Mae myfyrwyr nyrsio mewn prifysgolion ledled Cymru yn cael y cyfle i gael profiad ymarferol o system nyrsio ddigidol GIG Cymru cyn iddynt fynd ar eu lleoliadau gwaith cyntaf.
Mae’r sesiynau Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) yn helpu i roi’r wybodaeth a’r hyder i fyfyrwyr prifysgol ddefnyddio WNCR mewn amgylchedd prawf rheoledig cyn mynd i sefyllfaoedd clinigol bywyd go iawn.
Mae sesiynau rhyngweithiol yn cael eu cyflwyno ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyda sesiynau pellach i’w cyflwyno i fwy o brifysgolion ledled Cymru.
Mae WNCR yn system ddigidol a ddyluniwyd ac a adeiladwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), mewn cydweithrediad a phob un o’r saith bwrdd iechyd ledled Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre. Mae’n galluogi nyrsys i gwblhau asesiadau wrth erchwyn gwely claf ar dabled symudol, neu ddyfais llaw arall, gan arbed amser, gwella cywirdeb a lleihau dyblygu.
Mae WNCR wedi casglu mwy na 14.8 miliwn o nodiadau nyrsio cleifion mewnol ledled Cymru. Fe’i defnyddir bellach mewn 312 o wardiau ar draws 51 o safleoedd ysbyty, ac mae’r nifer hwnnw’n cynyddu wrth i’r broses gyflwyno barhau.
Yn ystod y sesiynau, mae Beverley Havard, Swyddog Gwybodeg Glinigol Arweiniol IGDC ar gyfer WNCR, yn arwain myfyrwyr nyrsio trwy nodweddion a swyddogaethau’r system, gyda chefnogaeth t?m Newid Busnes IGDC.
Bu Beverley yn gweithio fel nyrs gofrestredig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am 24 mlynedd. Ar ?l cefnogi myfyrwyr nyrsio yn yr amgylchedd clinigol yn y gorffennol, dywedodd Beverley ei bod am sicrhau bod myfyrwyr nyrsio yn cael dealltwriaeth sylfaenol o Gofnod Gofal Nyrsio Cymru cyn mynd ar leoliad.
Ychwanegodd: “Mae’r WNCR ar gael ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru ac mae’n rhan bwysig o lif gwaith dyddiol staff nyrsio. Mae cyflwyno myfyrwyr nyrsio i’r system yn gynnar yn eu hyfforddiant yn eu paratoi’n well ar gyfer pob agwedd ar y r?l.
“Mae wedi bod yn wych gweithio gyda’r myfyrwyr yn ystod y sesiynau rhyngweithiol hyn, ac mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn.
“Rydym hefyd yn gweithio gyda thimau TG i roi manylion mewngofnodi GIG Cymru i bob myfyriwr fel y gallan nhw gael mynediad at systemau yn gyflymach ac yn fwy effeithlon ar leoliadau ac wrth iddyn nhw ddechrau eu gyrfaoedd nyrsio.”