Dathliad Rhithiol Dydd Gwyl Dewi
Gwenno Dafydd. M.Sc.Econ. Master Public Speaking Coach
Is your fear of Public Speaking stopping you from getting your dream job and earning what you are worth? Professional Broadcaster and Performer since 1980. I can guarantee to transform you.
Dathlwch Dydd Gwyl Dewi eleni gyda’r hashnodau yma:
#DathliadRhithiolDewi2021
#VirtualStDavidsDay21
Yn y blynyddoedd olaf r’ydym wedi gweld twf aruthrol yn y nifer o orymdeithiau neu pareds Dydd Gwyl Dewi sydd yn digwydd ar draws y wlad – oddeutu 25 yn y Cyfnod Cyn-Cofid.
Eleni yn anffodus fe fydd hi’n amhosib i gymeryd rhan mewn pared na chwaith mewn digwyddiadau ysgol, teuluol, ciniawau cymunedol nag unrhywbeth sydd yn golygu dod at ein gilydd fel cymunedau a chenedl i ddathlu dydd ein nawdd sant.
Er hynna, mae na gnewllyn o drefnwyr prif ddigwyddiadau’r wyl wedi dod at eu gilydd i rannu arfer da a syniadau ar sut i greu dathliadau rhithiol nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y byd ble bynnag mae ein teulu estynedig o Gymry ar Wasgar.
Mae rhain yn cynnwys Gwenno Dafydd (Anthem Dydd Gwyl Dewi, Baneri Sirol ag Ysgolion) Sion Jobbins (Pared Aber ) Rhys Llewelyn (Pared Dewi Sant Pwllheli) Alun Lenny ( Pared Caerfyrddin) Llio Sulyn (Trefnydd Digwyddiadau Rhydaman) Rhidian Evans (Pared Penfro) a Martin Evans (Prifathro Ysgol Gwaun Cae Gurwen – Baner Dydd Gwyl Dewi Ysgol Gyntaf Cymru) gyda chymorth oddiwrth Aran Jones (Say Something in Welsh.com) Elinor Tuckey (Cyngor Llyfrau Cymraeg) a Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)
R’ydym wedi penderfynu ein bod yn mynd i wahodd pobol i gyfrannu eu dathliadau ‘rhithiol’ i hashnodau sydd wedi eu creu yn arbennig i eleni.
Yr hashnod Gymraeg fydd:
#DathliadRhithiolDewi2021
Yr hashnod Saesneg fydd:
#VirtualStDavidsDay21
Dyma rai o’r syniadau sydd eisioes ar waith.
· Dysgu Anthem Dydd Gwyl Dewi, Calon Lan a’r Anthem Genedlaethol mewn grwpiau teuluol, ysgol, cor neu gymuned - eu ricordio a’u rhoi allan ar y we o dan yr hashnod uchod.
· Gellid prynu copi o faniwscript yr anthem yma. Mae pedair fersiwn ar gael – piano a llais, cor cymysg, cor merched a chor dynion.
· Dyma engraifft wych o sut gellid dod ac unigolion at eu gilydd yn y byd rhithiol i ganu anthem Dydd Gwyl Dewi. Mae’r diolch i ‘Wedi Saith’ Tinopolis am yr eitem ysbrydoledig yma. Plant o Dde a Gogledd Cymru, Los Angeles a Phatagonia yn canu’r anthem gyda’u gilydd. https://www.youtube.com/watch?v=BrO1cZRLTYQ
· Athrawon: Adnodd ar HWB – gweler linc ‘Cenwch y clychau’ https://resources.hwb.wales.gov.uk/VTC/ngfl/2007-08/wsl/irf23/dewi_sant_mp3/c_index.html
· Yn rhinwedd ei swydd fel ‘Llysgenhad Dydd Gwyl Dewi i’r Byd’ ar ran y wefan Americymru, mae Gwenno Dafydd wedi ricordio cyflwyniad Powerpoint yn Gymraeg a Saesneg sy’n son am hanes datblygiad Dathliadau Dydd Gwyl Dewi (anthem, gorymdeithiau, baneri sirol ag ysgolion) ers iddi gael syniad am greu anthem arbennig yn 2005 a gellid defnyddio y cyflwyniad yma mewn unrhyw gymdeithas neu grwp (mae hi eisioes wedi gneud y cyflwyniad i Ferched y Wawr) ble bynnag yn y byd.
· Dyma’r un Gymraeg
https://www.youtube.com/watch?v=9hOfYx5s9bA&list=PLL5kFg0P4DspmjllkG3c6KVsHft3bVPQy&index=2&t=221s
· A dyma’r un Saesneg
https://www.youtube.com/watch?v=fhy2coWd5dI&list=PLL5kFg0P4DspmjllkG3c6KVsHft3bVPQy&index=1&t=5s
· Creu gorymdaith rhithiol ysgol, gymunedol neu deuluol. Mae plant Ysgol Gwaun Cae Gurwen yn mynd i ganu anthem Dydd Gwyl Dewi a creu gorymdaith rithiol hefyd. Dyma’r drefn - Gwisgwch lan, neu chwifiwch faner, ewch ar orymdaith fechan o amglych y ty, yr ardd neu rhywle lleol sy’n agos at eich cartref. Tynnwch lun neu fidio. Defnyddiwch yr hashnod a lan lwythwch nhw. Byddant hefyd yn cynnal Eisteddfod ysgol yn rhithiol i ddisgyblion ar Fawrth y 1af ac yn cyflwyno enillydd y gadair.
· Mae Pared Dewi Sant Pwllheli wedi annog plant a phobol i beintio cerrig gleision gyda delweddau Cymreig a’u gadael ar draethau Cymru ac mae nhw yn comisiynu arlunydd lleol i greu taflenni lliwio ar gyfer plant oed cynradd o’r chwech syniad gorau.
· Gwahoddir pobol i wneud baneri teuluol, ysgol a chymunedol tebyg i’r dair Faner Sirol a baneri ysgol sydd eisioes wedi eu creu – (gweler y cyflwyniad gan Gwenno am fwy o wybodaeth) er mwyn eu harddangos yn y digwyddiad rhithiol neu mewn paratoad i’r flwyddyn nesaf pan fyddwn ni (gobeithio) yn medru dod n’ol at ein gilydd i’w defnyddio yn ein pareds arferol.
· Cael cystadleuthau addurno ffenestri gyda delweddau Cymreig – cenin pedr, cenin, dreigiau, delweddau o Dewi.
· Mae na amryw o gystadleuthau ar lein - cwis gyda Mentrau Iaith y Gorllewin, nos Fercher y 3ydd, fidios ar sut i wneud pice ar y Maen, caneuon a storiau i ddysgwyr.
· Chwifiwch eich baneri yn eich gerddi: Y ddraig, Baner Owain Glyndwr a baner Dewi Sant.
Mae y flwyddyn olaf wedi bod yn her enfawr i ni gyd ar gymaint o lefelau felly dewch ynghyd yn y byd rhithiol, y byd sydd wedi ein galluogi i gadw mewn cysylltiad gydan hanwyliaid, a Dathlu Dydd Gwyl Dewi ym mhedwar ban byd gyda’r ddau hashnod yma.
Yr hashnod Gymraeg fydd:
#DathliadRhithiolDewi2021
Yr hashnod Saesneg fydd:
#VirtualStDavidsDay21
Ac efallai os fydd rhaid gohirio ein Pareds flwyddyn nesaf oherwydd y tywydd garw sydd yn tueddu i ddigwydd ar Fawrth y Cyntaf, fe allwn i barhau i ddefnyddio hashnodau bod blwyddyn i gyd-gysylltu gyda phawb sydd o’r un anian a sydd eisiau Dathlu Dydd Gwyl Dewi – ble bynnag yn y byd.