D?r Cymru gyda’r cyntaf yn y diwydiant i gyhoeddi strategaeth data agored
D?r Cymru Welsh Water
We provide water to keep you healthy and clean your wastewater to protect our environment.
Mae D?r Cymru, yr unig gwmni d?r nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr, gyda’r cyntaf yn y diwydiant d?r i gyhoeddi ei strategaeth data agored.
Nod y strategaeth yw creu diwylliant agored diofyn, sy’n golygu y bydd data’n agored oni bai bod yna reswm da dros beidio, fel amddiffyn gwybodaeth bersonol er enghraifft.
Mae’r cwmni a’r diwydiant d?r yn gyffredinol, yn cadw llwyth anferth o ddata ar ei asedau a’i berfformiad, a bydd gwneud y data yma’n ‘agored’ yn golygu ei fod ar gael i bawb – y cyhoedd, gwyddonwyr, rheoleiddwyr a’r diwydiant ehangach. Mae setiau data’n gallu amrywio’n fawr, gydag esiamplau’n amrywio o’r defnydd o dd?r ar lefel ddomestig, i ansawdd d?r, i lefelau cronfeydd d?r.
Trwy gyhoeddi’r strategaeth yn agored, nod y cwmni d?r yw annog pobl eraill i wneud yr un peth a hybu cydweithio er mwyn helpu i ddatrys rhai o’r sialensiau mwyaf sy’n wynebu’r diwydiant a’r byd ehangach.
Dywedodd Kit Wilson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gweithredol D?r Cymru: “Mae lansio ein strategaeth data agored yn gam cyffrous. Mae hi’n rhoi gwir ddatganiad o fwriad, a bydd yn sbarduno arloesi er mwyn gwella gwasanaethau a helpu i ddatrys problemau. Mae gan Dd?r Cymru enw da hirsefydlog am fod yn agored, ac mae ein rheoleiddwyr, OFWAT, eisoes wedi datgan bod D?r Cymru’n gwneud hyn yn dda, felly roedd hi’n gam naturiol i ni.? Rydyn ni wedi bod ar y siwrnai yma er blynyddoedd bellach, gan rannu data a phartneriaid dibynadwy a chwmn?au’r cyfleustodau.”
领英推荐
Yn hanesyddol, mae D?r Cymru wedi rhannu data a phrifysgolion yng Nghymru mewn ymdrech i sbarduno atebion arloesol i rai o’r sialensiau sy’n wynebu’r diwydiant. Mae’r cwmni wedi chwarae r?l allweddol yn ‘Stream’ sef platfform rhannu data’r diwydiant hefyd, sy’n esiampl ragorol o’r dull diwydiant-eang o weithredu.
Mae Kit yn esbonio: “Gwelwyd tro ar fyd o fewn y diwydiant. Gyda chwmn?au d?r yn wynebu problemau tebyg ac yn ymdrechu i rannu dirnadaeth a gwybodaeth, mae Stream yn ein galluogi ni i rannu, dysgu gan ein gilydd a thyfu fel diwydiant er mwyn ennyn ffydd y cwsmeriaid. Mae hi’n gamp aruthrol i’r diwydiant.”
Mae’r cwmni wedi sicrhau bod ei gwsmeriaid wedi cael chwarae rhan yn y broses o ddatblygu’r strategaeth hon hefyd er mwyn sicrhau y bydd yn ddefnyddiol iddynt, a bod y setiau data sy’n cael eu rhyddhau yn adlewyrchu eu blaenoriaethau nhw.
Ychwanegodd Kit: “Mae cwsmeriaid yn disgwyl tryloywder, ac nid ymarfer ticio blychau yn unig mo’n strategaeth data agored - dyma’r peth iawn i’w wneud. Un o’n gwerthoedd craidd yw ennill ffydd ein cwsmeriaid pob un dydd, ac mae ffydd yn rheswm pwysig dros greu’r strategaeth yn y modd yma.”
Dywedodd Louise Burke, Prif Weithredwr y Sefydliad Data Agored: “Wrth gyhoeddi ei strategaeth data agored gyntaf, mae D?r Cymru?Welsh Water yn cymryd cam pwysig trwy gyfrannu at ecosystem data agored y gall pobl ymddiried ynddi yn y sector d?r, ac yng Nghymru’n ehangach hefyd. Rydyn ni’n croesawu’r ymrwymiadau hyn i fod yn agored, cydweithio a sicrhau stiwardiaeth gyfrifol dros ddata hefyd, ac yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi D?r Cymru ar ei siwrnai data agored.”