Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi bwydlen newydd o gymwysterau mewn lletygarwch ac arlwyo
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi eu penderfyniadau ar gymwysterau galwedigaethol ?l-16 mewn lletygarwch ac arlwyo, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd dewislen newydd, mwy syml o gymwysterau yn barod ar gyfer dysgwyr o fis Medi 2027.
Mae harddwch naturiol, tirwedd amrywiol a diwylliant cyfoethog Cymru yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd. Mae'r sector lletygarwch ac arlwyo yno i'w croesawu, gan gyfrannu £4bn i'r economi.?
Gyda dros 165,000 o bobl, gan gynnwys llawer o bobl ifanc, wedi'u cyflogi yn y diwydiant, ac o ystryied ei r?l hanfodol yn economi Cymru, mae'n hanfodol bod cymwysterau cyfoes o ansawdd uchel, sy’n cael eu cydnabod yn eang ar gael i ddysgwyr. Mae'r rhain yn ffactorau sydd wedi arwain Cymwysterau Cymru wrth ddod i benderfyniad - sy'n cynnwys:?
Bydd Cymwysterau Cymru yn datblygu ac yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo y bydd cyrff dyfarnu yn eu defnyddio i ddylunio'r cymwysterau newydd. Bydd y rhain yn barod i ganolfannau ddechrau paratoi i gyflwyno'r cymwysterau o fis Medi 2026, gyda'r dysgu yn dechrau ym mis Medi 2027.?
Y penderfyniadau hyn yw'r cam diweddaraf yng ngwaith y rheoleiddiwr i adolygu cymwysterau yn y sector teithio, twristiaeth, lletygarwch ac arlwyo. Mae Ar Daith, adolygiad Cymwysterau Cymru o’r sector, wedi canfod bod cymwysterau teithio a thwristiaeth yn gyffredinol yn diwallu anghenion rhesymol dysgwyr, tra nodwyd pryderon mwy sylweddol gyda strwythur ac ystod y rhai sydd ar gael mewn lletygarwch ac arlwyo.?
Bydd Cymwysterau Cymru hefyd yn parhau i ddynodi cymwysterau arbenigol presennol mewn pynciau fel pobi a chigyddiaeth, er mwyn sicrhau y gall dysgwyr barhau i wneud y rhain. Bydd y cynnig symlach hwn yn darparu dewis i ddysgwyr a chanolfannau, yn sicrhau cysondeb o ran cynnwys ac ansawdd, ac yn sicrhau bod gan gweithlu’r dyfodol y sgiliau a’r wybodaeth sydd angen i gadarnhau cynnig Cymru fel lle gwych i fwyta, i chwarae ac i aros.??
Wrth gyhoeddi’r penderfyniadau, dywedodd Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Gweithredol Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru:
"Wrth wraidd y penderfyniadau hyn mae ein hargyhoeddiad y dylai dysgwyr allu dilyn cymwysterau modern sy'n berthnasol i'r diwydiant, sy'n cael eu cydnabod yng Nghymru a thu hwnt. Ar ?l ystyried adborth gan randdeiliaid yn ofalus, rydyn ni’n credu y bydd y gyfres newydd hon o gymwysterau symlach yn bodloni ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag anghenion cyflogwyr yn y sector lletygarwch ac arlwyo sy'n symud yn gyflym, wrth baratoi dysgwyr gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus."?
Dywedodd Richard Bond, Sylfaenydd, Sol Consulting:?
领英推荐
"Amlygodd yr adolygiad Ar Daith yr angen am lwybrau cliriach i ddysgwyr a chynnwys diwygiedig o fewn y sectorau lletygarwch ac arlwyo. Bydd y penderfyniadau sydd wedi’u gwneud gan Cymwysterau Cymru yn creu dewislen newydd o gymwysterau, gan ei gwneud yn haws i ddysgwyr a chyflogwyr eu llywio. Bydd y cynnig symlach yn sicrhau bod y rhai sy’n gobeithio bod yn weithwyr lletygarwch ac arlwyo proffesiynol yn gwybod yn union ble i ddechrau, ac yn cael cyfle i symud ymlaen yn y diwydiant cyffrous hwn."??
Dywedodd Sandra Kelly, Cyfarwyddwr Sgiliau, UKHospitality:
"Bydd y cynnig newydd, mwy syml yma yn darparu eglurder sydd mawr ei angen i gyflogwyr ac yn sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau i helpu’r diwydiant i ffynnu. Bydd model cymwysterau symlach, gyda llwybrau cliriach ar gyfer gwneud cynnydd, yn helpu cyflogwyr i ddod o hyd i'r gweithlu mae’n nhw chwilio amdano, nodi’r hyn sydd ar goll a helpu i ddatblygu eu timau."?
Dywedodd Arwyn Watkins OBE, Llywydd, Cymdeithas Coginiol Cymru:
"Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yng Nghymru yn ddeinamig ac o hyd yn esblygu. Er mwyn cefnogi twf a chyfleoedd yn y dyfodol, rydyn ni angen dysgwyr sydd a'r wybodaeth a'r sgiliau diweddaraf ac sy'n gallu cael mynediad at gymwysterau sy'n eu helpu i ddatblygu. Bydd y gyfres newydd o gymwysterau symlach yn helpu i wneud hynny, yn ogystal a rhoi eglurder i'r sector cyfan."?
Dywedodd Gabi Wilson, Chef De Partie, prentis mewn Coginio Proffesiynol gyda Hyfforddiant Cambrian:?
"Mae fy mhrentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol wedi arwain at lawer o wahanol gyfleoedd ac wedi rhoi cyfle i mi weithio gyda chogyddion, tiwtoriaid a phrentisiaid a myfyrwyr talentog iawn. Mae'n wych y bydd Cymwysterau Cymru yn sicrhau bod gan ddysgwyr yn y dyfodol y cymwysterau cywir ar gael iddyn nhw, a fydd yn hyblyg ac yn cynnig cynnydd. Mae cymwysterau wedi helpu i mi ddatblygu a dysgu sgiliau newydd, gan fy mharatoi ar gyfer fy ngyrfa yn y diwydiant lletygarwch yn y dyfodol."??
Darganfyddwch fwy a chymerwch olwg ar yr Adroddiad Penderfyniadau llawn, Crynodeb o’r Adroddiad Penderfyniadau ac Asesiad Effaith Integredig wedi'i ddiweddaru – i gyd ar gael yma.?