Cyfres Siaradwyr Ysbrydoledig: Cwrdd a’r siaradwyr

Cyfres Siaradwyr Ysbrydoledig: Cwrdd a’r siaradwyr

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod gennym siaradwyr anhygoel yr hydref hwn a fydd yn rhannu eu straeon diddorol am eu gyrfaoedd mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhelir ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.?

Dewch i gael eich ysbrydoli a'ch ysgogi a darganfod sut y llwyddodd ein siaradwyr yn eu maes.?

Yn y cyflwyniadau, byddwch yn dysgu:?

  • Sut mae siaradwyr wedi sefydlu eu busnes yn llwyddiannus a chyrraedd lle maen nhw nawr.?
  • Does dim rhaid aros tan yn hwyrach mewn bywyd i ddechrau eich dyfodol – taith yw bywyd, nid cyrchfan yn unig.?
  • Sgiliau a meddylfryd gwahanol sy'n gysylltiedig a bod yn entrepreneur.?

?Cynhelir digwyddiadau yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr drwy gydol semester yr hydref. Rhagor o wybodaeth a chadwch eich lle drwy eich cyfrif Dyfodol Myfyrwyr. ?

Dyfodol Myfyrwyr mewn partneriaeth a Syniadau Mawr Cymru sy’n trefnu’r Siaradwyr a’r digwyddiadau.?

Cwrdd a’r siaradwyr:?

No alt text provided for this image

Ben Hofmeister ?

4 Hydref, 16:30 ?

Sefydlodd Ben ei fusnes cyntaf, Archer Sports Management tra yn y brifysgol. Dechreuodd Ben trwy weithio gyda chlybiau chwaraeon lleol, a thyfodd ei asiantaeth i weithio gyda deiliaid hawliau chwaraeon proffesiynol a brandiau rhyngwladol gan gynnwys EIHL, y Gweilch, CageWarriors, British Cycling, Clwb Criced Morgannwg ac eraill. Sefydlodd Ben ail fenter hefyd o'r enw KOKORA sy'n blatfform biotechnoleg. ?

Ymunodd Ben a brand Datblygu Gemau, NovaCreed, a lansiodd gêm NFT a Blockchain yn 2022. Yn olaf, mae Ben yn eiriolwr dros dechnoleg cryptoarian, ac mae'n weithgar iawn yn y maes, gan gynnwys adeiladu peiriannau mwyngloddio a chyfleusterau i gefnogi ynni adnewyddadwy a seilwaith grid ynni. ?


No alt text provided for this image

Ryan Stephens?

13 Hydref, 16:30 – 17:30 ?

Mae Ryan Stephens yn dod o Abertawe, Cymru. Mae’n Hyfforddwr Meddylfryd, yn Gyflwynydd podlediad, yn Siaradwr Cyhoeddus ac yn weithgar yn y gymuned. Mae Ryan wedi dechrau sawl busnes yn ogystal a sefydlu dwy gymuned yn seiliedig ar hyrwyddo hunanddatblygu a lles positif. ?

Mae Ryan yn arbenigo mewn helpu unigolion, grwpiau neu dimau o fewn sefydliadau i chwalu credoau sy’n eu cyfyngu, magu hyder, mabwysiadu meddylfryd gwydn a chadarnhaol, yn ogystal a datblygu syniadau a strategaethau ynghylch hybu eu lles a'u hapusrwydd mewn bywyd. ?

No alt text provided for this image

Daniel Swygart?

25 Hydref, 16:30 – 17:30 ?

Prif Swyddog Gweithredol Timestake, marchnad tocynnau anghyfnewidadwy sy’n cael ei chefnogi gan Entrepreneur First (sbardunwr blaenllaw'r byd). Sefydlydd Alpacr, rhwydwaith cymdeithasol ar gyfer blogio am deithio. Un o’r deg entrepreneur gorau dan 25 oed yn y DU yn 2019. Enillydd cystadleuaeth Virgin Voom gyda Syr Richard Branson. Nomad digidol ers pedair blynedd, yn teithio'r byd o Silicon Valley i dde-ddwyrain Asia. Darlithydd ac ymgynghorydd bwrdd sy’n helpu busnesau newydd i sicrhau buddsoddiad.??


No alt text provided for this image

?Paula Burns?

14 Tachwedd, 13:00?

Paula Burns, Cynllunydd Priodas sydd wedi ennill sawl gwobr a steilydd lleoliad sy'n arbenigo mewn gwasanaeth personol, sy'n deillio o gyfuniad o dros 20 mlynedd o brofiad corfforaethol a fflêr creadigol naturiol. ?

A hithai’n fentor busnes creadigol, mae Paula hefyd yn gweithio gyda BBaChau i'w helpu i nodi ffyrdd creadigol o hyrwyddo eu hunain a'u busnes, er mwyn cynyddu eu gwerthiannau. ?


No alt text provided for this image

??Jamie McAnsh?

16 Tachwedd, 13:00 ?

Mae Jamie McAnsh yn siaradwr ysbrydoledig ac ysgogol gyda stori heb ei hail. Gan ddeffro wedi'i barlysu, mae wedi goresgyn pob her a roddwyd o'i flaen. Mae Jamie yn fabolgampwr, yn fodel r?l, yn entrepreneur, yn anturiaethwr anabl, ac yn bennaf oll yn oroeswr. Rhoddodd bywyd set o gardiau i Jamie a phenderfynodd ei fod yn mynd i chwarae pocer. Wrth edrych ar ei heriau o'r tu allan i'r bocs, mae Jamie wedi goresgyn heriau mewn arddull anhygoel.??


No alt text provided for this image

Nikki Giant?

22 Tachwedd, 13:00?

Mae Nikki Giant yn awdur ac entrepreneur cymdeithasol, sy'n gweithio i wella hawliau merched a menywod ifanc, ac yn cefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol plant.? ?

Nikki yw sylfaenydd The Girl Lab, asiantaeth hyfforddi ac ymgynghori ar daith i ailgynllunio bod yn ferch, gan newid y ffordd y mae merched a menywod ifanc yn cael eu cynrychioli, eu hymgysylltu a'u cefnogi. ?

Cyn hynny, Nikki oedd Pennaeth Hawliau Merched ac Ieuenctid yr elusen fyd-eang Plan International UK. Mae Nikki yn awdur pedwar llyfr addysgol a chafodd ei rhestru yn un o ferched busnes '35 dan 35' Wales Online yn 2015. Mae Nikki yn llysgennad ar gyfer y sefydliad Girl Rising, sy'n ceisio grymuso merched ledled y byd.?

要查看或添加评论,请登录

社区洞察

其他会员也浏览了