Cyfleoedd hyfforddiant i gyflogwyr - Rhifyn #18
GCS Training (Gower College Swansea)
Yn darparu addysg a hyfforddiant o’r ansawdd uchaf. Delivering the highest quality of education and training.
Prentisiaethau ??
Yn y byd busnes cystadleuol sydd ohoni, mae buddsoddi mewn datblygiad staff yn bwysicach nag erioed. Mae meithrin t?m medrus a hyblyg yn ffordd o roi hwb i gynhyrchiant, gan sicrhau bod eich sefydliad yn achub y blaen ar eraill.
Yng Ngholeg G?yr Abertawe, rydyn ni’n falch iawn o gynnig darpariaeth prentisiaethau o’r radd flaenaf. Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o lwybrau wedi’u hariannu’n llawn y gellir eu teilwra i gwrdd ag anghenion eich sefydliad.
Cyfleoedd presennol sydd ar gael:
Cyngor ac Arweiniad | Gweinyddu Busnes | Gyrfaoedd, Gwybodaeth a Chyngor | Cyfleusterau a Rheoli Ystadau | Gorchuddio Lloriau | Gweithrediadau Nwy | Cyfryngau Cymdeithasol i Fusnes | Cyfleusterau Cynaliadwy a Gwastraff | Telathrebu Proffesiynol | Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr (UX) | a llawer mwy!
Dysgwch ragor am y cyfleoedd neu’r prentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd trwy ymweld a’n gwefan, neu e-bostiwch [email protected] i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael yn y Coleg.
Lluosi ?? a Sgiliau ar gyfer Abertawe ??
Ydych chi’n 19+ ac yn byw neu yn gweithio yn Abertawe?
Gwnewch y mwyaf o’n cyrsiau am ddim trwy fentrau Lluosi a Sgiliau ar gyfer Abertawe, sydd wedi’u cynllunio i wella eich sgiliau rhifedd a chyfoethogi eich gwybodaeth mewn ystod o feysydd!
Mae cyrsiau ar gael yn y meysydd canlynol: Office 365, cynnal a chadw beiciau, cynaliadwyedd a llawer mwy!
Porwch trwy gyrsiau Lluosi yma.
Porwch trwy gyrsiau Sgiliau ar gyfer Abertawe yma.
领英推荐
Nosweithiau Agored Amser Llawn mis Tachwedd
Ydych chi’n rhiant balch neu yn ffrind sy’n adnabod myfyriwr sy’n barod i gymryd y cam nesaf ar ei daith addysgol?
Mae ein nosweithiau agored ym mis Tachwedd yn ffordd wych o ddarganfod popeth sydd angen ei wybod am astudio yn y Coleg.
P’un ai a ydych am ddarganfod mwy am y cyrsiau sgiliau adeiladu sydd ar gael ar gampws Llys Jiwbil? neu ein cyrsiau Safon Uwch yng Ngorseinon, dewch i ddysgu mwy am yr opsiynau a’r cymorth sydd ar gael. ????
Darllenwch yr amserlen neu cofrestrwch yma.
Gwobrau Plant Cymru a Cnect
Roedd Coleg G?yr Abertawe’n falch o noddi dwy wobr arwyddocaol iawn ddydd Gwener, gan gydnabod dawn ac ymroddiad rhagorol yng Nghymru. ??
Yng ngwobrau Plant Cymru fe wnaethom noddi’r Wobr Elusen Ragorol, gan ddathlu unigolion sy’n gweithio’n galed iawn i roi cymorth i bobl ifanc yng Nghymru fel y gallant fynd i’r afael a heriau bywyd. Yn ogystal, roedden ni’n falch iawn o noddi’r wobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Cnect Cymru, gan gydnabod talent ac ymroddiad rhagorol o fewn y diwydiant canolfannau cyswllt yng Nghymru.
Llongyfarchiadau mawr i’r enillwyr a’r enwebeion ar eich cyflawniadau gwych! ??
Cyfnod newydd i Beirianneg yng Ngholeg G?yr Abertawe
Mae’r Coleg yn falch o gyhoeddi dau benodiad newydd i’r adran Peirianneg.
Rhys Thomas yw Rheolwr Maes Dysgu newydd yr adran, sy’n cynnwys peirianneg fecanyddol, peirianneg electronig, cerbydau modur, chwaraeon moduro, a weldio.
Yn ymuno ag ef mae Maria Francis-Emanuel fel y Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol newydd. Fe wnaeth y ddau ddechrau yn eu swyddi ym mis Awst ac mae ganddynt gynlluniau cyffrous iawn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.
Rhagor o wybodaeth yma.