Cyfleoedd hyfforddiant i gyflogwyr - Rhifyn #17
GCS Training (Gower College Swansea)
Yn darparu addysg a hyfforddiant o’r ansawdd uchaf. Delivering the highest quality of education and training.
Digwyddiad galw heibio prentisiaeth cyflogwyr ??
Ydych chi am wella'ch gweithlu gyda thalent newydd a sgiliau arloesol?
Ymunwch a ni yn ein digwyddiad galw heibio prentisiaethau Cyflogwyr i ddarganfod sut y gall prentisiaethau fod yn fanteisiol i’ch sefydliad!
??? Dydd Mercher 28 Awst
?? 10.00am - 4.00pm
?? Ysgol Fusnes Plas Sgeti neu ar-lein
Dyma gyfle i gwrdd a’n t?m ymroddedig, derbyn cymorth ac arweiniad arbenigol sy’n berthnasol i’ch sefydliad, archwilio’r cymorth recriwtio sydd ar gael a darganfod y cyllid sydd ar gael.
Dim ond lleoedd cyfyngedig sydd ar ?l. Gallwch fynychu yn bersonol yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti neu ar-lein, sicrhewch eich lle yma.
Nosweithiau Agored Addysg Oedolion ??
Ydych chi’n barod i gychwyn taith ddysgu newydd, gwella eich sgiliau neu newid gyrfa?
Dewch i'n Nosweithiau Agored Addysg Oedolion i ddarganfod yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i chi yng Ngholeg G?yr Abertawe!
??? Dydd Llun 9 Medi a dydd Mawrth 10 Medi
?? 5.00pm - 7.00pm
?? Campws Tycoch, SA2 9EB
P’un a ydych am ddysgu i gael hwyl, uwchsgilio, newid gyrfa neu ddilyn addysg uwch, bydd ein t?m ar gael i roi arweiniad a chymorth i chi, gan sicrhau eich bod yn dod o hyd i’r cwrs cywir i gyd-fynd a’ch dymuniadau.
Mae ein cyrsiau hyblyg yn cyd-fynd a'ch ymrwymiadau presennol ac manet yn eich helpu i gyflawni'ch nodau, cofrestrwch yma.
领英推荐
Uwchsgilio! Trawsnewid rheoli cyfleusterau trwy brentisiaethau ??
At sylw Cyflogwyr Rheoli Cyfleusterau! Ydych chi am newid eich strategaeth datblygu staff?
Mynychwch ein digwyddiad Uwchsgilio! Trawsnewid rheoli cyfleusterau trwy brentisiaethau i ddarganfod sut y gall ein rhaglenni gael effeith sylweddol ar eich sefydliad.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 26 Medi, 9.00am - 11.00am ym Mhencadlys FA Swydd Gaerwrangon. Croeso i gyflogwyr yng Nghymru a Lloegr fynychu’r digwyddiad, ac mae’n cynnig cyfle unigryw i:
?? Ennill mewnwelediadau gwerthfawr a dysgu am dirwedd RhC
?? Achub y blaen eraill trwy defnyddio prentisiaethau
??? Cynnal rhwydwaith gyda chymheiriaid ac arweinwyr diwydiant
?? Dysgu sut i wneud y mwyaf o'ch ardoll prentisiaeth
Darperir lluniaeth a pharcio am ddim. Sicrewch eich lle yma.
Prentisiaethau gwag
Ydych chi'n barod i roi hwb i'ch gyrfa trwy archwilio llwybr newydd? Mae ein prentisiaethau gwag diweddaraf yn ffordd berffaith i wneud hyn!
? Ennill cyflog wrth weithio
? Ennill profiad perthnasol yn y gweithle
? Ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
P'un a ydych newydd ddechrau ym myd gwaith neu'n chwilio am yrfa newydd, mae prentisiaethau'n cynnig cyfuniad perffaith o brofiad ymarferol a dysgu academaidd.
Cliciwch yma i ddarlen rhestr o’n prentisiaethau gwag.