Cyfleoedd hyfforddiant i gyflogwyr - Rhifyn #14

Cyfleoedd hyfforddiant i gyflogwyr - Rhifyn #14

Digwyddiad Agored Prentisiaethau ??

Mae’r Coleg yn falch o gynnal Digwyddiad Agored Prentisiaethau ar ddydd Mercher, 5 Mehefin, 3.30pm - 7.30pm!

Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i ddysgu rhagor am ein darpariaeth prentisiaethau arobryn, a gallwch gwrdd a chyflogwyr lleol, darganfod swyddi gwag a chyrchu cymorth gyrfa/prentisiaethau. ??

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Gampws Tycoch ac mae’n addas ar gyfer pobl o bob oedran – p’un ai a ydych newydd adael ysgol, yn chwilio am gyfle addysg amgen neu draddodiadol neu’n dymuno uwchsgilio o fewn eich swydd bresennol.

Rhagor o wybodaeth / Cofrestru yma.

Ydych chi’n gyflogwr sy’n chwilio am brentisiaid? Cofrestrwch eich diddordeb i gymryd rhan yn y Digwyddiad Agored Prentisiaethau am ddim yma.


Sgiliau ar gyfer Abertawe ??

Wyt ti eisiau ailhyfforddi neu uwchsgilio?

Os wyt ti’n 19+ ac yn byw neu yn gweithio yn Abertawe, rwyt ti’n gymwys! ??

Gelli di gyrchu amrywiaeth o gyrsiau am ddim trwy ein prosiect Sgiliau ar gyfer Abertawe. Mae’r rhaglen yn cynnwys cyrsiau sgiliau digidol, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli cyfleusterau a llawer mwy!

Darganfod rhagor yma.

Ariennir Sgiliau ar gyfer Abertawe gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.


Hyfforddiant wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer busnesau

Mae Coleg G?yr Abertawe yn ymrwymedig i ddarparu atebion hyfforddi wedi'u teilwra ar gyfer busnesau, gan ffocysu ar uwchsgilio gweithluoedd a meithrin cyfleoedd twf.

Rydym yn cynnig nifer o gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn* a fydd yn dechrau ddiwedd mis Mai, gan gynnwys:

?? Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad/gwasanaeth cwsmeriaid

?? Rheoli Cyfleusterau

?? Rheoli cyfleusterau cynaliadwy

?? Gweinyddu digidol a busnes

Mae hyfforddiant hyblyg ar gael, lle bydd dysgwyr yn astudio cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol neu raglen wedi’i theilwra sy’n berthnasol i’r gweithle.

*i dderbyn cyllid, rhaid i ddysgwyr gofrestru erbyn 31 Mai

Dysgwch fwy am y cyfle hwn yma.


Gwobrau Hyfforddiant Prydain 2024

Mae Coleg G?yr Abertawe’n falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer Gwobr Hyfforddiant Prydain 2024.

Mae’r digwyddiad yn dathlu sefydliadau ac unigolion sy’n angerddol am r?l dysgu a datblygu wrth ddatblygu gweithlu llwyddiannus.

Rydym wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer categori Darparwr Prentisiaethau DU y Flwyddyn, ac rydym wedi cael ein canmol am greu Prentisiaethau cefnogol a hygyrch i bawb. Cawsom ein canmol hefyd am ein hymagwedd ragweithiol at gefnogi prentisiaid ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo yn Llundain ar 19 Mehefin. Mae mwy o wybodaeth yma.

要查看或添加评论,请登录

GCS Training (Gower College Swansea)的更多文章

社区洞察

其他会员也浏览了