Cwrdd a'n T?m - Luciana Skidmore
Amgueddfa Cymru – Museum Wales
Dewch i fod yn rhan o stori Cymru. Play your part in Wales’s story.
Dyma fi'n gwirfoddoli yn y gerddi yn Sain Ffagan yn 2018, cyn dechrau ar y Cynllun Ailhyfforddi fel Garddwr (WRAG) gyda chefnogaeth Cyfeillion Amgueddfa Cymru. Mae'r profiad wedi tanio fy awch am arddio, ac ysbrydoli newid gyrfa. Roeddwn i wedi gweithio yn y byd addysg a rheoli gwerthiant, ond doedd gen i ddim profiad garddwriaethol.
Roeddwn i'n ffodus iawn i ddechrau fy hyfforddiant yn Sain Ffagan yn 2019, gyda Ceri Goring yn fentor. Dyma fi'n ennill Tystysgrifau Garddwriaeth RHS lefel 2 a 3 ac yn derbyn Gwobr Prentis Cwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru yn 2021.
Yn 2022 dyma fi'n dechrau gweithio fel Cadwraethydd Gerddi rhan amser. Fy hoff beth am y gwaith yw'r cyfle i ddysgu rhywbeth newydd bob dydd. Dwi'n caru dysgu am arddwriaeth, natur, hanes a'r Gymraeg.
Dwi'n gyfrifol am yr Ardd Eidalaidd, ac wedi cyfrannu at blannu a gofalu am rannau o erddi'r Castell, fel yr Ardd Iseldiraidd, yr Ardd Berlysiau, y borderi perlysiau, y patsh pwmpeni, sychu blodau a phlannu'r feithrinfa. Bydda i'n tyfu llysiau a pherlysiau yng ngerddi'r tai hanesyddol, ac yn helpu i blannu, tocio a chynnal y coed ffrwythau ar draws y safle.
Dwi hefyd yn rhan o D?m Cynaliadwyedd Sain Ffagan ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth a chanfod atebion i'r problemau amgylcheddol sy'n ein hwynebu ni.
Yn ogystal a garddio, rydw i'n angerddol am brofiad yr ymwelydd. Dwi'n mwynhau rhannu gwybodaeth am blanhigion a hanes y gerddi, arwain teithiau, ysgrifennu blogiau ac erthyglau i wefan yr Amgueddfa, a chreu arddangosiadau o ffrwythau a llysiau tymhorol gyda'n cynnyrch.
领英推荐
Garddio! Dwi'n tyfu blodau a chadw ieir yn fy ngardd drefol, ac yn tyfu ffrwythau a llysiau yn yr alotment.
Yn ogystal a garddio, dwi'n mwynhau darllen, coginio, a dysgu Cymraeg. Dwi'n dysgu Cymraeg ers dros ddwy flynedd, ac yn dechrau cwrs Canolradd ym mis Medi. Dwi wrth fy modd yn dysgu Cymraeg!
Yn yr haf bydda i'n mwynhau mynd i nofio yn y m?r. Mae cymaint o draethau pert yng Nghymru.
Dwi'n caru gweld Gerddi'r Castell yn newid drwy'r tymhorau. Rhwng y Gaeaf a'r Hydref, mae'r lliwiau, y gweadau, yr arogl a'r synau yn cael eu trawsnewid – mae'n wledd i'r synhwyrau! Rydw i'n falch iawn o weld sut mae'r gerddi wedi esblygu a gwella dros y blynyddoedd.
O'r holl adeiladau hanesyddol, ffermdy Kennixton yw fy ffefryn i. Dwi'n caru'r lliw coch sy'n gwarchod rhag ysbrydion drwg, y sgubor lle byddwn ni'n dangos y ffrwythau a'r llysiau tymhorol, a'r Berllan sy'n rhoi cnwd da o afalau i greu ein sudd afal blasus.