Collaboration delivers digital inclusion in Denbighshire
Digital Health and Care Wales
Making digital a force for good in health and care
People in Denbighshire are gaining the skills and confidence they need to use digital tools like the NHS Wales App.??
The Digital Services for Patients and the Public (DSPP) Programme at DHCW which is developing the App, have been working closely with Digital Communities Wales and Digital Confidence Denbighshire to help people in the area get set up and start using the App’s features. The NHS Wales App and its accompanying website offer easy access to a range of health and care services.??
Up to 9% of the population of Denbighshire is not online, compared to 7% nationally. This means many people in the area cannot access essential services and face the risk of digital exclusion. This could potentially lead to reduced or delayed access to care, disparities in health outcomes and, increased social inequality. To address this, Cwmpas delivers a number of Digital Inclusion initiatives across Wales, the Digital Confidence Denbighshire (DCD) project, which is funded through the UK Government’s Shared prosperity until the end of December 2024, and the Welsh Government Digital Communities Wales Digital Inclusion programme, which runs until June 2025. The Digital Confidence Denbighshire programme provides one-on-one digital support to the public within the local authority area through drop-in sessions, workshops and essential skills courses. They also offer bespoke sessions to introduce people to the NHS Wales App.??
DHCW’s Business Change Facilitators as part of the DSPP Engagement Team have supported Cwmpas’ delivery by attending online sessions to provide more in-depth answers to questions specifically about the App.??
Since January 2024, Digital Confidence Denbighshire has offered 23 ‘Getting to know the NHS Wales App’ sessions. These sessions help people to get access to the App and use it to manage their health and wellbeing. Participants learn the basics, such as logging in, navigating the App, booking and managing GP appointments and ordering repeat prescriptions, if their GP practice has made these features available.??
Feedback from the sessions has been positive, with participants appreciating the face-to-face support. Comments include “It’s been extremely useful”, “Glad that I got onto the App”, “The course was good and easy to understand” “Really useful workshops” and “Very glad I attended”.?
Joanna Dundon, National Digital Lead - Public Engagement at DHCW, said: “We are really keen that patients and the public in Wales are able to use the NHS Wales App and not be digitally excluded because of lack of infrastructure or broadband, devices or confidence that most of us may take for granted.???
“By working with Cwmpas’ Digital Inclusion projects such as Digital Confidence Denbighshire and Digital Communities Wales, as well as third sector organisations, NHS Wales and local authorities which have had training from Digital Communities Wales, we have seen that this is a great way of finding and training Digital Champions in our local communities to support and encourage people to pick up a tablet and login to the App. By having champions who are trusted members of their communities means we can ensure this support will help people to feel empowered to look after their health and wellbeing digitally. We have been fortunate in starting to build up links across Wales and hope this will be replicated in all corners of the country.”???
Jocelle Lovell, Director of Inclusive Communities at Cwmpas, said: “Working with Digital Services for Patients and Public, Digital Communities Wales has supported organisations to understand the NHS Wales App, champion its use and support those organisations to support their clients using it. Digital Confidence Denbighshire has been able to offer direct support to citizens in Denbighshire, helping them to enrol on the App and understand how to use it effectively.??
“Access to digital services is vital for all members of our society and it is essential that no citizen is left behind when new services are rolled out. We have been delighted to be able to work with Digital Services for Patients and Public to support them in the roll-out of the NHS Wales App and to ensure that the most vulnerable in our communities have the skills to use it”.??
Several ‘Getting to know the NHS Wales App’ sessions will take place over the next few weeks in Denbighshire:?
You can book a workshop through the Digital Confidence Denbighshire website, by emailing [email protected] or by calling 03001115050 and choosing option 2.?
To learn more about how you can help others adopt the NHS Wales App, visit the NHS Wales App resource centre.?
领英推荐
Cydweithrediad yn sicrhau cynhwysiant digidol yn Sir Ddinbych
Mae pobl yn Sir Ddinbych yn ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio offer digidol fel Ap GIG Cymru.
Mae’r rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP) yn IGDC sy’n datblygu’r ap wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chymunedau Digidol Cymru a Hyder Digidol Sir Ddinbych i helpu pobl yn yr ardal i ddechrau defnyddio nodweddion yr ap. Mae Ap GIG Cymru a’r wefan gysylltiedig yn cynnig mynediad hawdd at ystod o wasanaethau iechyd a gofal.
Nid yw hyd at 9% o boblogaeth Sir Ddinbych ar-lein, o gymharu a 7% yn genedlaethol. Mae hyn yn golygu na all llawer o bobl yn yr ardal gael mynediad at wasanaethau hanfodol ac maent yn wynebu’r risg o allgau digidol. Gallai hyn arwain at lai o fynediad at ofal, neu at oedi wrth gael mynediad at ofal, gwahaniaethau mewn canlyniadau iechyd a mwy o anghydraddoldeb cymdeithasol. Er mwyn mynd i’r afael a hyn, mae Cwmpas yn darparu nifer o fentrau Cynhwysiant Digidol ledled Cymru, y prosiect Hyder Digidol Sir Ddinbych, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU tan ddiwedd mis Rhagfyr 2024, a rhaglen Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru Llywodraeth Cymru, sy’n rhedeg tan fis Mehefin 2025. Mae rhaglen Hyder Digidol Sir Ddinbych yn darparu cymorth digidol un-i-un i’r cyhoedd yn ardal yr awdurdod lleol trwy sesiynau galw heibio, gweithdai a chyrsiau sgiliau hanfodol. Maen nhw hefyd yn cynnig sesiynau pwrpasol i gyflwyno pobl i Ap GIG Cymru.
Mae Hwyluswyr Newid Busnes IGDC, fel rhan o D?m Ymgysylltu DSPP, wedi cefnogi darpariaeth Cwmpas trwy fynychu sesiynau ar-lein i ddarparu atebion manylach i gwestiynau penodol am yr ap.
Ers Ionawr 2024, mae Hyder Digidol Sir Ddinbych wedi cynnig 23 o sesiynau ‘Dod i Adnabod Ap GIG Cymru’. Mae’r sesiynau hyn yn helpu pobl i gael mynediad i’r ap a’i ddefnyddio i reoli eu hiechyd a’u llesiant. Mae cyfranogwyr yn dysgu’r pethau sylfaenol, fel mewngofnodi, llywio’r ap, archebu a rheoli apwyntiadau meddyg teulu, ac archebu presgripsiynau rheolaidd, os yw eu practis meddyg teulu yn cynnig y nodweddion hyn.
Mae adborth o’r sesiynau wedi bod yn gadarnhaol, gyda chyfranogwyr yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth wyneb yn wyneb. Dyma rai o’r sylwadau a gafwyd: “Mae wedi bod yn hynod ddefnyddiol”, “Dwi’n falch fy mod i wedi dechrau defnyddio’r ap”, “Roedd y cwrs yn dda ac yn hawdd ei ddeall”, “Gweithdai defnyddiol iawn” a “Dwi’n falch iawn fy mod i wedi mynychu”.
Dywedodd Joanna Dundon, Arweinydd Digidol Cenedlaethol - Ymgysylltu a’r Cyhoedd yn IGDC: “Rydyn ni’n awyddus iawn bod cleifion a’r cyhoedd yng Nghymru yn gallu defnyddio Ap GIG Cymru ac i sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu hallgáu’n ddigidol oherwydd diffyg seilwaith neu fand eang, dyfeisiau neu hyder - pethau y gall y rhan fwyaf ohonom eu cymryd yn ganiataol.?
“Trwy weithio gyda phrosiectau Cynhwysiant Digidol Cwmpas fel Hyder Digidol Sir Ddinbych a Chymunedau Digidol Cymru, yn ogystal a sefydliadau trydydd sector, GIG Cymru ac awdurdodau lleol sydd wedi cael hyfforddiant gan Gymunedau Digidol Cymru, rydym wedi gweld bod hon yn ffordd wych o ddod o hyd i Hyrwyddwyr Digidol a’u hyfforddi yn ein cymunedau lleol i gefnogi ac annog pobl i godi tabled a mewngofnodi i’r ap. Mae cael hyrwyddwyr sy’n aelodau o’u cymunedau y mae pobl yn ymddiried ynddynt yn golygu y gallwn sicrhau y bydd y cymorth hwn yn helpu pobl i deimlo eu bod wedi’u grymuso i ofalu am eu hiechyd a’u llesiant yn ddigidol. Rydyn ni wedi bod yn ffodus i fedru dechrau meithrin cysylltiadau ledled Cymru a’r gobaith yw y bydd hyn yn cael ei ailadrodd ym mhob rhan o’r wlad.”?
Dywedodd Jocelle Lovell, Cyfarwyddwr Cymunedau Cynhwysol yn Cwmpas: “Gan weithio gyda Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi cefnogi sefydliadau i ddeall Ap GIG Cymru, hyrwyddo ei ddefnydd a chefnogi’r sefydliadau hynny i helpu eu cleientiaid i’w ddefnyddio. Mae Hyder Digidol Sir Ddinbych wedi gallu cynnig cefnogaeth uniongyrchol i bobl yn Sir Ddinbych, gan eu helpu i gofrestru ar gyfer yr ap a deall sut i’w ddefnyddio’n effeithiol.?
“Mae mynediad at wasanaethau digidol yn hanfodol i bob aelod o’n cymdeithas ac mae’n hollbwysig nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ?l pan fydd gwasanaethau newydd yn cael eu cyflwyno. Rydym wedi bod yn falch iawn o allu gweithio gyda Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd i’w cefnogi i gyflwyno Ap GIG Cymru ac i sicrhau bod gan y rheiny sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau y sgiliau i’w ddefnyddio.”
Bydd sawl sesiwn ‘Dod i Adnabod Ap GIG Cymru’ yn cael eu cynnal yn Sir Ddinbych dros yr wythnosau nesaf:
Gallwch archebu gweithdy drwy wefan Hyder Digidol Sir Ddinbych, drwy e-bostio [email protected] neu drwy ffonio 03001115050 a dewis opsiwn 2.
I ddysgu mwy am sut y gallwch chi helpu eraill i fabwysiadu Ap GIG Cymru, ewch i ganolfan adnoddau Ap GIG Cymru.