Chwefror 2025

Chwefror 2025

Yng nghylchlythyr y mis hwn, dosbarthwyd miliwn o eitemau yng Nghymru drwy’r Gwasanaeth Presgripsiwn Electronig, mae dod o hyd i ddeintydd GIG yng Nghymru yn haws gyda phorth digidol newydd, system ddigidol newydd i chwyldroi’r gofal a ddarperir i gleifion ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chanolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru sy’n bartner gyda Microsoft ar gyfer digwyddiad ff?n timau cenedlaethol.



LATEST NEWS

MILIWN O EITEMAU WEDI'U DOSBARTHU YNG NGHYMRU DRWY'R GWASANAETH PRESGRIPSIYNAU ELECTRONIG

Mae miliwn o eitemau presgripsiwn bellach wedi’u dosbarthu yng Nghymru drwy wasanaeth digidol sy’n gwneud y broses ragnodi yn haws ac yn fwy diogel i gleifion.

Cyrhaeddodd y Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) – un o’r newidiadau mwyaf ers degawdau i’r ffordd y mae GIG Cymru yn rheoli presgripsiynau – y garreg filltir y mis hwn, ychydig dros flwyddyn ers lansio’r gwasanaeth.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, sydd a chyfrifoldeb dros arloesi, technoleg a thrawsnewid digidol ym maes iechyd:

"Mae cyrraedd miliwn o eitemau presgripsiwn electronig yn garreg filltir bwysig i GIG Cymru ac yn dangos ein hymrwymiad i foderneiddio darpariaeth gofal iechyd.

Darllenwch ragor ar wefan IGDC


DOD O HYD I DDEINTYDD Y GIG YNG NGHYMRU YN HAWS GYDA PHORTH DIGIDOL NEWYDD

Mae gwasanaeth digidol newydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru i helpu i wneud y broses o ddod o hyd i ddeintydd y GIG yn haws.

Mae'r Porth Mynediad Deintyddol yn darparu system ganolog i bobl gofrestru eu diddordeb mewn deintyddiaeth y GIG ac i fyrddau iechyd ddyrannu lleoedd ar gyfer triniaeth ddeintyddol rheolaidd y GIG.

Bydd y gwasanaeth yn rhoi darlun clir ynghylch maint y galw am wasanaethau deintyddol y GIG a bydd hefyd yn golygu na fydd angen i bobl gysylltu a sawl deintyddfa wrth geisio dod o hyd i ddeintydd y GIG.?Mae wedi ei gynllunio a'i adeiladu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Darllenwch ragor ar wefan IGDC


SYSTEMAU DIGIDOL NEWYDD I CHWYLDROI DARPARIAETH GOFAL I GLEIFION YSBYTY YM MWRDD IECHYD PRIFYSGOL ANEURIN BEVAN

Cyrhaeddwyd carreg filltir arall ar gyfer trawsnewid digidol yng Nghymru ym mis Chwefror, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) yn dewis Better fel ei gyflenwr technoleg i gyflwyno rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau yn electronig yn ei ysbytai.?

Bydd y system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) newydd yn chwyldroi rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau ar draws ysbytai o fewn y bwrdd iechyd trwy wneud y broses yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon.?

Mae rhoi datrysiadau ePMA ar waith ar draws GIG Cymru yn rhan allweddol o’r rhaglen Moddion Digidol, a arweinir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), i sicrhau bod rhagnodi, dosbarthu a rhoi meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon i gleifion a chlinigwyr.?

Darllenwch ragor ar wefan IGDC


MAE CANOLFAN RAGORIAETH MICROSOFT 365 GIG CYMRU YN BARTNER ? MICROSOFT AR GYFER DIGWYDDIADAU FF?N CENEDLAETHOL

Roedd Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth a Microsoft a Gamma i gynnal digwyddiad cenedlaethol ar gyfer cydweithwyr ar draws GIG Cymru yng Ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd.

Y nod oedd rhoi gwybod am botensial Teams Phone a sut mae'n integreiddio ag offer digidol presennol i wella cyfathrebu, gwella effeithlonrwydd, ac yn y pen draw, darparu gwell gofal i bobl Cymru.

Darllenwch ragor ar wefan IGDC


DIWEDDARIADAU PELLACH


FFORDD NEWYDD O WNEUD CEISIADAU DATA

Mae’r Gwasanaeth Ceisiadau Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) ar gael nawr — gan gynnig proses glir, symlach ar gyfer cyflwyno ceisiadau ac ymholiadau data.Pam fod hwn mor bwysig?

  • Un pwynt mynediad clir ar gyfer ceisiadau
  • Mwy o dryloywder a thegwch, diolch i fframwaith blaenoriaethu y cytunwyd arno
  • Gwell cydweithio, gan sicrhau bod datblygwyr data yn canolbwyntio ar y gwaith mwyaf effeithiol
  • Diweddariadau rheolaidd fel bod rhanddeiliaid bob amser yn gwybod beth yw statws eu ceisiadau

Eisiau dysgu mwy? Cysylltwch a [email protected]

Data Request Form


IGDC YN SIARAD AM BREIFATIAETH DATA A GRYMUSO UNIGOLION

Siaradodd Dave Parsons o IGDC, Rheolwr C?d Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) ar gyfer Llywodraethu Gwybodaeth yn ddiweddar yng nghynhadledd y Gwasanaeth Cynghori ar Breifatrwydd Data Engage, Educate, Empower 2025 gydag arweinwyr mewn moeseg ac ymarfer diogelu data.

Wrth ei gefnogi ar y diwrnod, bu Marcus, Ben, a Huw o Wasanaeth WASPI yn ymgysylltu a’r mynychwyr, gan ateb cwestiynau a hyrwyddo fframwaith WASPI.


WASPI 20 MLYNEDD YN DDIWEDDARACH…

Yn 2025, mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI)

Mae’n bwysig cofio a dathlu’r effeithiau cadarnhaol y mae WASPI wedi’u cael.?Bydd IGDC yn dathlu’r 20fed pen-blwydd hwn, a bydd eich mewnwelediadau yn werthfawr wrth ddangos r?l y Cytundeb o ran hyrwyddo rhannu data personol effeithiol a chyfreithlon er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru.

Os oes gennych chi stori newyddion da am y ffordd y mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru wedi gwneud gwahaniaeth neu wedi cael effaith gadarnhaol, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at [email protected]


GWEITHDAI CYDWEITHREDOL YN GOSOD Y DIRWEDD AR GYFER ePMA YNG NGOGLEDD CYMRU

Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf mewn cyfres o weithdai technegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn yr Wyddgrug. Ymunodd ein t?m ePMA cenedlaethol a’r cyflenwr technoleg Better a chydweithwyr BIPBC ar gyfer y digwyddiad, a roddodd gyfle gwych i randdeiliaid gwrdd yn bersonol, trafod cwmpas mynd yn fyw gyda’u systemau ePMA eleni a chwblhau’r gwaith cynllunio manwl.

Dywedodd Louise Gregory, Rheolwr Rhaglen ePMA Gofal Eilaidd IGDC: “Roedd yn wych bod yn yr ystafell gyda’n gilydd yn bersonol a chael y cyfle i drafod yr anghenion ar gyfer mynd yn fyw, gan gynnwys yr integreiddiadau i alluogi eu system ePMA i integreiddio a rhannu data gyda’r bensaern?aeth genedlaethol a helpu i symud pethau ymlaen.”



DIWEDDARIADAU CYFRYNGAU CYMDEITHASOL?

Ar?Ddiwrnod Amser i Siarad?eleni roedden ni eisiau annog pobl i gael sgyrsiau agored a helpu i chwalu’r stigma o amgylch iechyd meddwl. Yn IGDC, rydyn ni’n credu mewn meithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle mae pawb yn teimlo’n gyfforddus yn trafod eu llesiant meddyliol.?

Dyna pam ar Ddiwrnod Amser i Siarad roeddem eisiau tynnu sylw at rai o’n Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (MHFA).

Isod mae’r swyddogion yn s?n ychydig amdanynt eu hunain ac yn esbonio pam iddyn nhw benderfynu gwirfoddoli fel Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl (SCCIM).





STAKEHOLDER REVIEW - LATEST UPDATE

In our last email update, we informed you that we would be using this stakeholder newsletter moving forward to update you on where we are with the stakeholder review and action plan, and to share how we are collaborating with you, our stakeholders.?

As you are aware, the review provided valuable insights which led to an action plan with recommendations across six key themes. These include both DHCW-led initiatives and system-wide improvements that require collective effort across the sector.

This monthly stakeholder newsletter will include a dedicated section for updates on progress with our action plan.?We have also created a dedicated space on our website where you can access the full report?and we are currently working on a section where you track developments as we go forward.

What have we achieved so far?

  • We have spent the last few months hosting workshops, leadership days, and awareness sessions to ensure that engagement, communication, and collaboration with you is a top priority, and is adopted across all our programmes and services.
  • We are working closely with programme and service leads to turn recommendations into tangible actions.
  • We enhanced our Engagement Toolkit, with access for all DHCW staff to support consistent and effective collaborative working.
  • We held workshops and executive sessions with partners to identify opportunities and develop joint plans.

What will we do next?

  • The newly formed Stakeholder Action Plan Delivery Group will oversee implementation of the Action Plan.
  • We are working on explainer videos and messaging to explain our programmes in simple language.
  • We will focus on system-wide collaboration and progress updates.
  • We will continue to work with professional networks and peer groups,?and other key groups where there are representatives from our stakeholders and partners on the actions, we are taking moving forward.
  • We will establish the first meeting for Stakeholder Advisory Group, with focus on updating on progress and consideration of system wide actions.

As always, your input is invaluable as we move forward, and as we continue to provide updates, we would love to her your feedback.?You can email us on [email protected]?

要查看或添加评论,请登录

Digital Health and Care Wales的更多文章