Ceisiadau profion FIT digidol newydd yn gwella'r gwasanaeth i gleifion
Digital Health and Care Wales
Making digital a force for good in health and care
Bellach gall gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd wneud cais yn ddigidol am brofion i gleifion sydd a symptomau cyflyrau llwybr gastro-berfeddol is – a elwir yn Brofion Imiwnocemegol Ysgarthol Symptomatig (S-FIT) – gan wella dibynadwyedd, diogelwch a chyflymder y llwybr diagnosis ac unrhyw driniaeth bosib.
Mae’r ffordd newydd o wneud cais am S-FIT trwy blatfform ceisiadau prawf electronig (ETR) yn cynnig llu o fanteision i glinigwyr, gweinyddwyr a chleifion.
Mae’r ETR yn llenwi gwybodaeth cleifion ac atgyfeirwyr yn awtomatig ar y pwynt atgyfeirio, gan wneud y broses yn gyflymach ac yn fwy diogel. Mae dangosfwrdd digidol yn cyfuno’r holl ddata mewn un lleoliad cyfleus i staff labordy gael mynediad ato.
Mae’r system hefyd yn rhoi cadarnhad pan fydd sampl wedi’i derbyn, sy’n rhan o’r weithdrefn rhwyd ddiogelwch. Mae hyn yn symleiddio’r dulliau presennol o fonitro pa gleifion sydd heb ddychwelyd pecynnau prawf a dangosyddion perfformiad allweddol eraill.
Dywedodd David Evans, Cydlynydd S-FIT yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Cyn ETR, roedd yn ofynnol i glinigwyr lenwi ffurflen ar-lein i ofyn am becyn FIT. Roedd yn rhaid llenwi’r ffurflen hon drwy deipio rhydd a heb unrhyw awtolenwi, ac roedd yn ffynhonnell gwallau ansawdd data. Yr adborth cyson gan glinigwyr oedd bod y system yn anodd ei chyrchu a’i defnyddio.”
Arweiniwyd y gwaith o gyflwyno’r broses ETR gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
领英推荐
?
Dywedodd yr Athro John Geen, Biocemegydd Clinigol Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf: “Mae cydweithio rhwng y pedwar sefydliad wedi optimeiddio swyddogaethau’r systemau TG cenedlaethol sydd ar gael. Mae hyn wedi cynnig buddion sylweddol o ran adnoddau amser i’r staff clinigol sy’n gwneud ceisiadau ac i’r gwasanaethau labordy, ond yn bwysicaf oll, mae’n gwella mynediad i gleifion at y prawf pwysig hwn.”
Ychwanegodd Gareth Powell, Pennaeth Gwasanaethau Labordy yn Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Labordy Sgrinio ICC wedi bod yn falch iawn o fedru cydweithio mor effeithiol a’n cydweithwyr yn IGDC, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a th?m biocemeg glinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym wedi llwyddo i ddatblygu system ETR sy’n ddiogel, yn effeithiol ac sy’n cyflwyno gwelliannau sylweddol i wasanaethau i BIPAB, BIPCTM ac ICC, gyda chefnogaeth amhrisiadwy gan y t?m cofnod prawf sengl yn IGDC, a hoffem ddiolch i’n holl gydweithwyr a fu’n rhan o’r prosiect hwn.”
Dywedodd Carley Goaman, Rheolwr Prosiect, Cofnod Sengl, IGDC, “Yn y gorffennol, bu llawer o broblemau gyda’r hen broses o wneud cais ar bapur, gyda gwybodaeth yn cael ei cholli a gwybodaeth cleifion yn cael ei thrawsgrifio’n anghywir, a allai arwain at gael eu gwrthod gan y labordy. Mae’r prosiect i gyflwyno’r broses newydd hon wedi bod yn llwyddiant mawr ac mae’r cydweithio rhwng t?m Cofnod Sengl IGDC, t?m gwasanaethau gwybodaeth IGDC, ICC, BIP Cwm Taf Morgannwg a BIP Aneurin Bevan wedi bod yn allweddol i’r llwyddiant.”