Bwletin Rhanddeiliaid AaGIC - Hydref 2024

Bwletin Rhanddeiliaid AaGIC - Hydref 2024

Cyflwyniad

Croeso i fwletin mis Hydref sy'n dod a rhai o uchafbwyntiau rhaglen waith AaGIC dros y mis diwethaf i chi.


Datblygiadau newydd

Mae Arolwg Staff GIG Cymru 2024 nawr yn fyw!

Mae’n bleser gennym lansio ail arolwg staff blynyddol GIG Cymru. Mae’r arolwg cyfrinachol hwn yn cynnig cyfle i staff GIG Cymru siapio eu gweithleoedd trwy ddarparu adborth, mewnwelediad a safbwyntiau ar eu profiadau. Mae hefyd yn arf hanfodol i greu diwylliannau tosturiol ac i roi gwell dealltwriaeth i sefydliadau GIG Cymru o sut y gall systemau, polis?au a gweithdrefnau wella profiadau yn y gweithle a chyfrannu’n gadarnhaol at iechyd a lles y gweithlu. Daw’r arolwg i ben ar 29 Tachwedd 2024 ac rydym yn annog holl gydweithwyr y GIG i hyrwyddo hyn fel ein bod yn cael y gyfradd ymateb orau bosibl.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Arolwg Staff GIG Cymru - AaGIC.


Lansio Hyb Cadw

Mae cadw staff yn allweddol i ddatblygu gweithlu cynaliadwy. Mae ein Rhaglen Cadw Cymru Gyfan yn parhau i gefnogi sefydliadau i ddatblygu cynlluniau cadw lleol i wella profiad staff yn y gwaith a’u cadw yn y gweithlu.

Mae buddsoddiad hyd yn hyn wedi cynnwys penodi 10 arweinydd cadw lleol sydd wedi’u lleoli mewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled Cymru. Mae'r swyddi hyn yn darparu capasiti a momentwm i ddatblygu a chyflymu ystod amrywiol o weithgareddau cadw sy'n ymateb i anghenion ac amgylchiadau lleol.

I gefnogi hyn, rydym wedi lansio hyb cadw y gall unrhyw un gael mynediad ato. Mae Hyb Perthyn, Ffynnu, Aros yn darparu mynediad i ystod o becynnau cymorth, adnoddau, canllawiau gwella ansawdd, astudiaethau achos a dangosfyrddau data. Mae hefyd yn blatfform i rannu arfer da a mentrau llwyddiannus


Lansio Fframwaith Gallu Cyhyrysgerbydol i Gymru

Mae datblygu’r gweithlu ar gyfer gofal sylfaenol yn un o’n prif flaenoriaethau. Gyda gweithwyr proffesiynol cyhyrysgerbydol (MSK) o bob rhan o Gymru, rydym wedi datblygu fframwaith gallu MSK amlbroffesiynol . Mae hwn yn diffinio’r galluoedd sydd eu hangen ar glinigwyr sydd wedi’u cofrestru’n broffesiynol i ddiwallu anghenion iechyd a llesiant presennol a rhagweledig pobl a chyflyrau MSK mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Bydd yn sicrhau cysondeb yn natblygiad y gweithlu MSK, ac ansawdd gofal a gwasanaethau fel y nodir yn y Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd MSK (2023).

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.



Addysg a hyfforddiant

Darparu Addysg Newydd

Rydym yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau bod yr addysg a’r hyfforddiant a gomisiynir gennym o’r ansawdd uchaf, a’u bod yn diwallu anghenion myfyrwyr, hyfforddeion a chleifion. Fel rhan o'r gwaith hwn, cyn hir byddwn yn dyfarnu contractau i ddarparu Addysg Uwchsain ar Lefel 7 Tystysgrif ?l-raddedig a Diploma ?l-raddedig. Byddwn hefyd yn dyfarnu'r contract Lefel 6 Awdurdodi Annibynnol ar gyfer Addysg Trallwyso Gwaed. Yn ogystal, rydym ar hyn o bryd yn tendro ar gyfer Addysg Rhagnodi Annibynnol ar lefelau 6 a 7.


Gweithlu presennol a dyfodol

Golau gwyrdd ar gyfer Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg wedi’i gymeradwyo yn ein Bwrdd ym mis Medi. Bydd yn cael ei lansio ddydd Gwener 15 Tachwedd yn ystod Wythnos Llythrennedd Genomeg.

Wedi’i ddatblygu gyda Phartneriaeth Genomeg Cymru, mae’r Cynllun yn amlinellu cynllun tair blynedd i adeiladu’r sylfeini ar gyfer gweithlu cynaliadwy i gadw i fyny a datblygiadau mewn genomeg.

Mae’r cynllun yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer datblygu’r gweithlu genomeg arbenigol yn ogystal a chymorth i’r gweithlu ehangach o ystyried goblygiadau genomeg ar draws cymaint o lwybrau gofal.

Gwybodaeth bellach: [email protected] neu ewch i Gynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg - AaGIC (nhs.wales)



Datblygu proffesiwn pobl y GIG

Rydym yn parhau a’n gwaith i ddenu a chadw proffesiwn pobl modern, addas i’r diben a chynhwysol yn GIG Cymru.

I gefnogi hyn, rydym wedi lansio 'Hyb Proffesiwn Pobl' newydd sbon ar Gwella, ein platfform arweinyddiaeth.

Mae'n gartref i'r cyfleoedd a'r adnoddau gyrfa diweddaraf. Gallwch gael mynediad i'r hyb yma: Datblygu’r Proffesiwn Pobl - Gwella Porth Arwain AaGIC i Gymru


Corfforaethol

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol AaGIC: adroddiad blynyddol, adroddiad ansawdd blynyddol a fideo uchafbwyntiau

Roedd yn wych croesawu cymaint o randdeiliaid a phartneriaid i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol rhithwir.

Yma cymeradwyodd Bwrdd AaGIC ein Hadroddiad Blynyddol 2023-24. Mae hyn yn tanlinellu ein cynnydd o ran: cynyddu nifer y cydweithwyr dan hyfforddiant; cefnogi cadw ar lefel lleol; datblygu a lansio cynlluniau gweithlu allweddol; a chefnogi atebion gweithlu ar gyfer rhaglenni cenedlaethol gan gynnwys gofal wedi'i gynllunio, diagnosteg a chanser. Siaradodd staff am eu amseroedd mwyaf arwyddocaol yn fideo uchafbwyntiau Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol AaGIC.

Cymeradwyodd y Bwrdd ein hadroddiad ansawdd blynyddol cyntaf hefyd. Mae hyn yn adlewyrchu sut mae ansawdd wrth wraidd popeth a wnawn ac yn egluro'r sylfeini cadarn yr ydym wedi'u hadeiladu i gymhwyso'r ddyletswydd ansawdd.


Adroddiad Blynyddol Mwy Na Geiriau 2023-24

Yn dilyn cymeradwyaeth y Bwrdd, rydym wedi cyflwyno ein hadroddiad blynyddol Mwy Na Geiriau i Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn amlygu sut rydym yn datblygu camau gweithredu i gefnogi darparu gwasanaethau gofal iechyd yn Gymraeg, gan gynnwys:

  • Comisiynu a chyflwyno cwrs Codi Hyder yn y Gymraeg ar gyfer uwch staff y GIG ledled Cymru – Agor y Drws
  • Datblygu dogfen cynllunio gweithlu i gefnogi gwasanaethau Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i Safon 110 o Safonau Iechyd y Gymraeg i gynnig ymgynghoriadau clinigol yn y Gymraeg.
  • Datblygu proses fewnol ar gyfer cytuno, cymhwyso a safoni terminoleg iechyd. Rydym yn dechrau gweithio gyda phartneriaid eraill i rannu arfer gorau.


Llongyfarchiadau Amy!

Llongyfarchiadau i Amy Lake, Rheolwr Rhaglen Addysg Ffotograffiaeth Glinigol AaGIC, sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth Sefydliad y Darlunwyr Meddygol (IMI). Mae'r Gymrodoriaeth yn cydnabod rhagoriaeth mewn galluoedd a sgiliau a dyma anrhydedd uchaf y Sefydliad.


Cadw'r dyddiad:

13 Rhagfyr 2024 QISTwyl 2024 – Cynhadledd Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd. Cofrestrwch i fynychu yma.

19 Chwefror 2025 Cynhadledd Optometreg 360- manylion llawn i ddilyn.


I’r funud a newyddion AaGIC

Rhannwch y bwletin hwn, gall cydweithwyr gofrestru yma i dderbyn newyddion AaGIC yn uniongyrchol i'w blwch derbyn a dewis meysydd o'n gwaith y mae ganddynt ddiddordeb arbennig ynddynt.

Darganfyddwch beth arall yr ydym yn ei wneud ar ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol:

要查看或添加评论,请登录

Health Education and Improvement Wales (HEIW)/Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)的更多文章

社区洞察