Beth i'w ddisgwyl o arholiadau ac asesiadau’r haf hwn

Beth i'w ddisgwyl o arholiadau ac asesiadau’r haf hwn

Wrth i ddysgwyr baratoi ar gyfer arholiadau ac asesiadau, Kerry Davies o Cymwysterau Cymru sy'n egluro beth i'w ddisgwyl.

Yr wythnos nesaf bydd cyfres flynyddol arholiadau ac asesiadau’r haf yn dechrau, lle bydd dysgwyr unwaith eto’n cael cyfle i ddangos yr hyn maen nhw’n ei wybod ac yn gallu ei wneud ac yna derbyn graddau a fydd yn eu cefnogi wrth iddyn nhw ddechrau ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Yn ?l i normal

Fodd bynnag, mae eleni ychydig yn wahanol, gan mai hon yw'r gyfres haf gyntaf, am gryn amser, lle rydyn ni’n disgwyl i ganlyniadau cymwysterau cyffredinol (fel TGAU a Safon Uwch) a chymwysterau galwedigaethol fod yn debyg iawn i ganlyniadau cyn y pandemig.

Mae dysgwyr wrth wraidd ein penderfyniadau, a dyna pam rydyn ni wedi cymryd pethau gam wrth gam wrth ddychwelyd i drefniadau cyn y pandemig. Ar bob pwynt, rydyn ni wedi ystyried anghenion dysgwyr ochr yn ochr a'n cyfrifoldeb i gynnal hyder yn y system gymwysterau yng Nghymru. Rydyn ni’n credu bod hyn yn bwysig i ddiogelu gwerth tymor hir graddau dysgwyr.

Y broses arholiadau

Mae arholiadau ac asesiadau yn rhoi sylfaen gyfartal i ddysgwyr, a fydd yn eu sefyll ar yr un pryd ac o dan yr un amodau a’u cyfoedion ar draws y wlad. Bydd eu papurau wedi cael eu datblygu a'u cymeradwyo gan ystod o arbenigwyr pwnc ac arholi, a byddan nhw’n cael eu marcio gan arholwyr nad ydyn nhw’n gwybod eu henwau, lle maen nhw’n astudio, neu hyd yn oed o ba ran o’r wlad maen nhw’n dod.

Mae ymdeimlad o degwch yn rhoi hyder i ddysgwyr yn eu graddau, yn ogystal a sicrhau bod gan y canlyniadau yr un gwerth waeth ble yng Nghymru, neu hyd yn oed mewn mannau eraill yn y DU, y cafodd yr asesiadau eu sefyll. Mae hyn yn ei dro yn adeiladu ymddiriedaeth yng nghymwysterau Cymru ac yn helpu dysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol.

Mae cymwysterau'n gwobrwyo gwaith caled dysgwyr, ac mae colegau, cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac addysg uwch i gyd yn defnyddio cymwysterau i gefnogi dysgwyr yn eu dewisiadau wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Mae'n bwysig bod gan bawb ddealltwriaeth glir a chydgysylltiedig am werth graddau dysgwyr, a dyna pam ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau a'n taith at y trefniadau asesu oedd yn bod cyn y pandemig.

Y broses raddio

Bob blwyddyn, rydyn ni’n goruchwylio paratoadau CBAC ar gyfer y broses ddyfarnu. Dyma lle mae uwch arholwyr ac arbenigwyr pwnc yn ystyried perfformiad dysgwyr mewn pwnc unigol. Dyma lle mae ffiniau graddau'n cael eu gosod, sy'n pennu faint o farciau sydd eu hangen arnoch i gyrraedd gradd benodol. Mae gennym ofynion penodol ar gyfer CBAC, gan mai nhw sy’n darparu'r rhan fwyaf o'r cymwysterau cyffredinol y mae dysgwyr yng Nghymru yn eu sefyll.

Nid yw ffiniau graddau yn sefydlog flwyddyn ar ?l blwyddyn, ac nid oes cwota penodol ar gyfer graddau. Yn hytrach, gall ffiniau graddau newid i ddarparu ar gyfer ffactorau megis lefel anhawster papur arholiad penodol.

Ar gyfer cymwysterau cyffredinol eleni, byddwn yn monitro CBAC yn agos wrth iddyn nhw bennu ffiniau graddau. Rydyn ni’n gwybod bod y pandemig wedi cael effaith hirdymor ar ddysgu i rai, felly bydd rhywfaint o ddiogelwch i osgoi gweld canlyniadau pynciau unigol ymhell islaw'r blynyddoedd cyn y pandemig, er mwyn darparu rhwyd ddiogelwch, os oes angen.? Ar y cyfan, rydyn ni’n disgwyl y bydd canlyniadau cenedlaethol yr haf hwn yn debygol o fod yn is nag yr oedden nhw yn 2023.

Er mwyn llywio ein gwaith o fonitro arholiadau'r haf hwn a darparu gwybodaeth y gallwn ei defnyddio mewn cyfresi arholiadau yn y dyfodol, rydyn ni am glywed beth yw barn dysgwyr, athrawon a darlithwyr am yr arholiadau a'r asesiadau yr haf hwn. Ar ddechrau mis Mai byddwn yn lansio arolwg i gasglu adborth.

Rydyn ni wedi gweithio’n agos a rheoleiddwyr eraill yn y DU i sicrhau bod ein dull o ymdrin a chymwysterau galwedigaethol yn cyfateb i’n gilydd. Mae llawer o’r rhain yn cael eu sefyll gan ddysgwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae Ofqual, y rheoleiddiwr yn Lloegr, wedi datblygu hwb gwybodaeth i gynorthwyo ysgolion a cholegau i ddod o hyd i ddyddiadau allweddol gan yr holl gyrff dyfarnu galwedigaethol mewn un lle. Bydd gwiriadau ychwanegol hefyd yn sicrhau y bydd dysgwyr sy'n disgwyl canlyniad yn haf 2024 yn cael eu canlyniadau ar ddiwrnod canlyniadau TGAU neu Safon Uwch cyfatebol neu cyn hynny i gefnogi eu cynnydd.

P'un a yw dysgwyr yn sefyll cymwysterau cyffredinol, cymwysterau galwedigaethol, neu'r ddau, mae amrywiaeth o gymorth pellach ar gael. Ysgolion a cholegau yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw gwestiynau. Mae cyrff dyfarnu hefyd yn cynnig amrywiaeth o gymorth ac adnoddau, ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu hwb gwybodaeth ‘Lefel Nesa’. Yn Cymwysterau Cymru, rydyn ni’n sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan ac rydyn ni wedi cynllunio canllaw i ddysgwyr gyda gwybodaeth allweddol i ddysgwyr yng Nghymru.

Hoffai pob un ohonom yn Cymwysterau Cymru ddymuno’r gorau i bob dysgwr yng Nghymru sy'n sefyll cymwysterau’r haf hwn. Pob lwc!

要查看或添加评论,请登录

社区洞察

其他会员也浏览了