AaGIC yn cefnogi Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd

AaGIC yn cefnogi Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cefnogi Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd gyda diogelwch cleifion wrth wraidd popeth a wnawn. Cyfeirir at thema eleni o 'wella diagnosis ar gyfer diogelwch cleifion' drwy gydol llawer o'n gwaith. Dyma rai enghreifftiau o'r prosiectau presennol rydym yn gweithio arnynt:

?

Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Genomeg Rydym yn gweithio mewn partneriaeth a Phartneriaeth Genomeg Cymru i ddatblygu Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer genomeg. Bydd genomeg yn chwarae rhan fawr yn nyfodol gofal iechyd trwy ein helpu i ddeall afiechydon yn well a datblygu triniaethau a chynlluniau gofal mwy manwl gywir. Bydd hyn yn helpu i wella diagnosis cleifion ac yn y pen draw gofal cleifion.

?

Cynllun Gweithlu Diagnosteg Mae'r Cynllun Gweithlu Diagnosteg yn cyfuno gwaith presennol ar draws rhaglenni cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys, Delweddu, Patholeg, Endosgopi a Gwyddor Gofal Iechyd. Nod hyn yw gwella a chynyddu gwasanaethau diagnostig ledled Cymru.

?

Digwyddiadau Gwyddor Gofal Iechyd Rydym yn hwyluso sesiynau galw heibio ar gyfer staff gofal iechyd sy'n gweithio mewn; genomeg, patholeg, gwyddoniaeth gyfrifiadurol glinigol, ymarfer yr adran lawdriniaethau ffisioleg glinigol, ffiseg feddygol a pheirianneg clinigol/adsefydlu.?

Mae'r sesiynau galw heibio yn cynnig: - Cyngor ar addysg ac ariannu - cyfleoedd datblygu gyrfa ac arweinyddiaeth - Cipolwg ar brosiectau AaGIC ar gynaliadwyedd addysg, hunaniaeth broffesiynol a hyrwyddo proffesiwn.

?

Y Fframwaith Gallu Digidol (DCF) Rydym wedi datblygu'r DCF i helpu staff gofal iechyd i nodi a datblygu eu gallu digidol. Wrth i drawsnewid digidol ddatblygu, mae'r angen am sgiliau digidol yn dod yn hollbwysig, nid yn unig ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol ond hefyd ar gyfer gwella ansawdd y gofal a ddarperir a lleihau anghydraddoldeb iechyd. Wrth i dechnoleg ddatblygu, gall allgáu digidol waethygu anghydraddoldebau iechyd trwy ei gwneud hi'n anoddach i bobl gael mynediad at ofal iechyd, defnyddio gwasanaethau, a chael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gadw'n iach. Felly mae arfogi staff gofal iechyd a'r sgiliau angenrheidiol i helpu i drin cleifion yn fwy effeithlon yn ogystal a'u haddysgu ar lywio'r dirwedd iechyd digidol gymhleth yn hanfodol.


Ewch i wefan AaGIC i gael gwybod mwy.


要查看或添加评论,请登录

Health Education and Improvement Wales (HEIW)/Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)的更多文章

社区洞察

其他会员也浏览了